Please login or sign up to post and edit reviews.
Hawliau Menywod ac Esgob Tyddewi
Podcast |
Bwrw Golwg
Publisher |
BBC
Media Type |
audio
Categories Via RSS
Publication Date |
Jan 22, 2017
Episode Duration |
00:28:24
Ddiwrnod wedi cyfres o orymdeithiau ar draws y byd i gefnogi hawliau menywod, mae dwy o'r rhai a fu'n gorymdeithio yn ymuno â John Roberts i drafod. Roedd Shan Ashton ym Mangor, wrth i Ann Griffith gynorthwyo i drefnu'r digwyddiad yn Washington. Ar yr un diwrnod, cafodd Joanna Penberthy ei chysegru yn Esgob yng Nghadeirlan Llandaf. Hi yw esgob benywaidd cyntaf yr Eglwys yng Nghymru, a bydd yn cael ei gorseddu yn Nhyddewi ym mis Chwefror. Yn ogystal â chlywed pytiau o'r gwasanaeth cysegru, mae John yn sgwrsio gyda Rhian Linecar a oedd yno. Mae Dyfan Graves yn treulio dwy flynedd ar fwrdd llong genhadol Logos Hope, yn mynd â llyfrau i rai o gymunedau tlotaf y byd. Mae'n esbonio beth yw natur ei waith, a pham ei fod am wasanaethu. Cafodd Cymdeithas Astudiaethau'r Hen Destament ei sefydlu yn 1917. Ganrif yn ddiweddarach, mae Eryl Davies o Brifysgol Bangor yn trafod arwyddocâd ei gwaith.

This episode currently has no reviews.

Submit Review
This episode could use a review!

This episode could use a review! Have anything to say about it? Share your thoughts using the button below.

Submit Review