Hawliau Menywod ac Esgob Tyddewi - Categories Via RSS
- Publication Date |
- Jan 22, 2017
- Episode Duration |
- 00:28:24
Ddiwrnod wedi cyfres o orymdeithiau ar draws y byd i gefnogi hawliau menywod, mae dwy o'r rhai a fu'n gorymdeithio yn ymuno â John Roberts i drafod. Roedd Shan Ashton ym Mangor, wrth i Ann Griffith gynorthwyo i drefnu'r digwyddiad yn Washington.
Ar yr un diwrnod, cafodd Joanna Penberthy ei chysegru yn Esgob yng Nghadeirlan Llandaf. Hi yw esgob benywaidd cyntaf yr Eglwys yng Nghymru, a bydd yn cael ei gorseddu yn Nhyddewi ym mis Chwefror. Yn ogystal â chlywed pytiau o'r gwasanaeth cysegru, mae John yn sgwrsio gyda Rhian Linecar a oedd yno.
Mae Dyfan Graves yn treulio dwy flynedd ar fwrdd llong genhadol Logos Hope, yn mynd â llyfrau i rai o gymunedau tlotaf y byd. Mae'n esbonio beth yw natur ei waith, a pham ei fod am wasanaethu.
Cafodd Cymdeithas Astudiaethau'r Hen Destament ei sefydlu yn 1917. Ganrif yn ddiweddarach, mae Eryl Davies o Brifysgol Bangor yn trafod arwyddocâd ei gwaith.