Adolygiad o'r papurau Sul yng Nghymru a'r Eidal yng nghwmni Mair Edwards yng Nghymru a Dewi Rogers yn yr Eidal. Mae Debora Morgante yn egluro pam ei bod yn Eidales sy'n byw yn Rhufain ac wedi dysgu Cymraeg. Un arall sy'n byw yn yr Eidal yw Rhodri Jones sy'n gweithio fel ffotograffydd. Fe fu Gino Vasami, Daniela Antoniazzi, Dafydd Apolloni a Cefin Roberts yn sôn am eu cysylltiad nhw gyda'r Eidal. Nid yn annisgwyl roedd digon o edrych ymlaen at gêm gyntaf Cymru ym Mhencampwriaeth y chwe gwlad gyda Ken Owens, Cennydd Davies, Emyr Lewis, a Deiniol Jones yn ogystal â barn cefnogwyr Cymry yn Rhufain