Mynyddog oedd prif awdur caneuon pop Cymraeg Oes Fictoria, yn ôl Dafydd Glyn Jones. Mae'n ymuno â Dei am sgwrs.
Ymgyrch David Davies, Llandinam, dros heddwch sy'n cael sylw Huw Lloyd Williams, wrth i Dyfed Wyn Roberts roi hanes y Parchedig Benjamin Meyrick. Yn wrthwynebydd cydwybodol, fo oedd yr unig weinidog yng Nghymru i gael ei garcharu'n ystod y Rhyfel Mawr.
Hefyd, golwg ar waith celf Edrica Huws yn Oriel Ynys Môn. Mae Dei yn cael cwmni Daniel Huws, ei mab, a'i hwyres Hannah Huws.