Rôl Carchardai - Cosbi neu Gynorthwyo?
Podcast |
Bwrw Golwg
Publisher |
BBC
Media Type |
audio
Categories Via RSS
Publication Date |
Mar 05, 2017
Episode Duration |
00:28:23
Cosbi neu gynorthwyo? Wrth i Garchar y Berwyn agor yn Wrecsam, mae John Roberts yn holi Tim Holmes o Brifysgol Bangor ynglŷn â rôl carchar. Ble mae'r ffin rhwng cosbi a chynorthwyo pobl i beidio ag aildroseddu? Yng nghanol Pythefnos Masnach Deg, mae rhai o ddisgyblion Ysgol Gwynllyw - a oedd yn llwyddiannus yng Nghystadleuaeth Farddoniaeth Cymorth Cristnogol a Divine y llynedd - yn trafod beth mae masnach deg yn ei olygu iddyn nhw. Fe ddylai cleifion sydd â salwch terfynol gael eu holi gan feddygon am eu ffydd, yn ôl NICE, er mwyn rhoi gwell gofal iddyn nhw. Mari Lloyd Williams, arbenigwr mewn gofal lliniarol, sy'n ymateb. Mae Bwrw Golwg yn trafod y Saith Bechod Marwol yn ystod y Grawys, gan ddechrau gydag aelodau o'r chweched dosbarth yn Ysgol Plasmawr yn diffinio beth yw balchder. A ydy balchder bob amser yn beth drwg? A chyn i gynhadledd ar efengylu gael ei chynnal yn Aberystwyth, mae'r trefnydd Stuart Bell yn esbonio pam ei fod yn awyddus i drafod y pwnc, a sut mae'n gobeithio annog y rhai sy'n mynychu.

This episode currently has no reviews.

Submit Review
This episode could use a review!

This episode could use a review! Have anything to say about it? Share your thoughts using the button below.

Submit Review