Please login or sign up to post and edit reviews.
Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 24ain 2021 - Publication Date |
- Dec 24, 2021
- Episode Duration |
- 00:16:22
01. Gwneud Bywyd yn Haws – Hyder Mewn Lliw
Dillad oedd yn cael sylw Hanna Hopwood ar Gwneud Bywyd yn Haws nos Fawrth a chafodd hi sgwrs gyda’r hyfforddwr delwedd Sonia Williams o’r cwmni ‘Hyder Mewn Lliw’…
Hyfforddwr delwedd Image coach
Cynllunio To plan
Canolbwyntio To concentrate
Pwysigrwydd Importance
Arna chdi Arnot ti
Cymryd sylw To pay attention
Ysbryd Spirit
Dos Cer
Yr union liw The exact colour
Penodol Specific
Drych Mirror
Coelio Credu
02. Beti a'i Phobol – Mei Jones
I glywed mwy o’r sgwrs yna ewch draw i wefan BBC Sounds a chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws, yno hefyd gewch chi glywed cyfweliad gyda Llio Angharad sy’n rhannu cynghorion ar sut i edrych ar ôl ein dillad.
Bu farw’r actor, sgriptiwr ac awdur Mei Jones yn ddiweddar, ac i gofio amdano ail-ddarlledwyd sgwrs cafodd Mei gyda Beti George rai blynyddoedd yn ôl. Er bod Mei wedi actio pob math o gymeriadau mae’n debyg mai fel Wali Tomos yn C’mon Midffîld y bydd llawer iawn o bobl yn ei gofio...
Y diweddar The late
Ail-ddarlledu To rebroadcast
Twmffat Idiot (idiomatic)
Y gyfres The series
Dim cythraul o beryg No way
Diawledigrwydd Mischief
Cysuro fy hun Consoling myself
Yn llythrennol Literally
03. Gareth yr Orangutan ar Bore Cothi
Y diweddar Mei Jones oedd hwnna mewn sgwrs gyda Beti George
Oeddech chi’n gwybod bod yna Orangutan sy’n siarad Cymraeg? Gareth yw ei enw ac mae’n swnio’n debyg iawn i Gog o Ddyffryn Nantlle. Falle mai dyna sut mae Orangutans yn siarad, pwy â ŵyr?
Shan Cothi oedd yn holi Gareth am ei hoff sŵn…
Synhwyrau Senses
Cerddor Musician
Offerynau Instruments
Aballu And so on
Deilen A leaf
Haenen A layer
Crybwyll To mention
04. Trystan ac Emma – Delia Heaton
Gareth yr Orangutan ar Bore Cothi yn rhoi hysbys bach i’r gyfres “Gareth”, ddechreuodd nos Wener diwetha am 10yh ar S4C.
Mae Delia Heaton yn dod o Bentrecagal ger Castell Newydd Emlyn yn wreiddiol ond yn byw yn Nelson ger Caerffili ers blynyddoedd.
Mae hi wedi bod yn ffan o Cliff Richard ers iddi fod yn ifanc iawn ac fel cawn ni glywed mae hi wedi teithio’n bell iawn i weld Cliff...
Pry’ny (pryd hynny) At that time
Sgrechian To scream
Sefydlu To establish
Wnelon nhw ddim Wnaethon nhw ddim
05. Pererin Wyf – Huw Williams
Un oedd yn canu yr un adeg â Cliff Richard, ac i ddweud y gwir mae’r ddau’n dal i ganu rhywfaint, oedd Iris Williams o Donyrefail ym Morgannwg. Un o’i chaneuon mwya enwog oedd Pererin Wyf sef cyfieithiad o ‘Amazing Grace’. Mae tad Georgia Ruth yn dod o Donyrefail hefyd a chafodd Georgia sgwrs gyda’i thad am y pentref bach hwn sydd yn Rhondda Cynon Tâf...
Diwylliant y cymoedd The culture of the Valleys
Traddodiad Tradition
Cymanfa ganu Hymn singing festival
Ail Rhyfel Byd Second World War
Losin Sweets
06. Geraint Lloyd – Rheilffordd Dyffryn Rheidol
Darlun o Donyrefail y gorffennol yn fan’na ar raglen Georgia Ruth, a hynny gan ei thad.
Aeth Geraint Lloyd allan o’r stiwdio ddydd Mercher a chael cyfarfod â Chyfarwyddwr a Rheolwr Rheilffordd Rheidol, Llyr Ap Iolo. Rheilffordd fach yw hon sy’n mynd o Aberystwyrth i Bontarfynach. Mae llawer iawn o newidiau‘n digwydd gyda’r rheilffordd ar hyn o bryd a dyma Llyr yn sôn am rai ohonyn nhw
Cyfarwyddwr a Rheolwr Director and Manager
Pontarfynach Devil’s bridge
Buddsoddiad Investment
Ail-drefnu To rearrange
Atyniad Attraction
Storfa Storage area
Galluogi To enable
Ail-gydio To rekindle
This episode could use a review!
This episode could use a review! Have anything to say about it? Share your thoughts using the button below.
Submit Review