Please login or sign up to post and edit reviews.
Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 29ain Mehefin 2022
Publisher |
BBC
Media Type |
audio
Podknife tags |
Education
Language Courses
Welsh
Categories Via RSS |
Education
Publication Date |
Jun 29, 2022
Episode Duration |
00:15:22
Beti a'i Phobol Aled Roberts Ar Beti a'i Phobol ddydd Sul, mi gaethon ni gyfle i ail-wrando ar sgwrs Beti efo Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, fuodd farw mis Chwefror eleni yn 59 mlwydd oed. Cafodd Aled ei eni a'i fagu yn Rhosllannerchrugog, ger Wrecsam, a dyma i chi flas ar y sgwrs ble mae o'n esbonio wrth Beti beth oedd o'n ei weld yn heriau'r swydd a sut oedd o'n eu hwynebu... Heriau - Challenges Hwyrach - Efallai Arweinydd cyngor - Council leader Hamddenol - Leisurely Gwthio - To push Awyddus - Eager Adlewyrchu - To reflect Cryfder - Strength Twf aruthrol - Huge growth Drwy gyfrwng - Through the medium of ...ac mae colled mawr i Gymru ac i'r Gymraeg ar ôl Aled Roberts. Aled Hughes ac Meurig Rees Jones Buodd Syr Paul McCartney yn perfformio yn Glastonbury wythnos diwetha ac yntau newydd ddathlu ei benblwydd yn 80. Ond oeddech chi'n gwybod bod y Beatles yn ymwelwyr cyson â Phortmeirion? Meurig Rees Jones ydy Rheolwr Lleoliadau Portmeirion, a buodd o'n siarad efo Aled Hughes fore Llun am gysylltiad y canwr a'r ardal dros y blynyddoedd Rheolwr Lleoliadau - Location Manager Y cyswllt - The contact Bythynnod hunanarlwyo - Self catering cottages Ar les byr - On a short lease Gatws - Gatehouse A dyna i chi hanes pobl enwog yn mwynhau gwyliau moethus yn y chwedegau ym Mhortmeirion. GBYH Campio Math gwahanol iawn o wyliau sy nesa wrth i Hanna Hopwood holi beth sy'n gwneud bywyd yn haws wrth fynd i wersylla. Kelly Morris sy'n esbonio beth ydy apêl y math yma o wyliau... Moethus - Luxurious Gwersylla - Camping Cyfeillgar - Friendly Mas tu fas - Outside Dw i'n dwlu mynd - Dw i wrth fy modd yn mynd Chwarae aboiti - Playing around Sbort - Hwyl Hala amser - Treulio amser Llanw - Llenwi Ia, mae gwersylla'n sbort, tydy, ond i'r tywydd fihafio ynde? BORE COTHI CROQUET 2206 Mae'n debyg fod y gêm croquet wedi dod yn fwy poblogaidd yn dilyn cyfresi fel Bridgerton ac un o'r rhai sy wedi dechrau chwarae'r gêm ydy Davyth Fear o Lanrug ger Caernarfon. Aeth Davyth a'i wraig, Rhiannon, i ddiwrnod agored yng nghlwb croquet Llanfairfechan yn 2018 a phenderfynu rhoi tro arni a dyn nhw ddim wedi edrych yn ôl ers hynny. Rheolau - Rules Dyfeisio - Devise Yr Ymerodraeth Brydeinig - The British Empire Cymhleth - Complicated Naill ai - Either Hanes croquet yn nhref fach lan y môr Llanfairfechan yn fan'na ar Bore Cothi. DROS GINIO NEIL AC ALED ROSSER Tad a mab, Neil ac Aled Rosser oedd gwestai dau cyn dau efo Dewi Llwyd. Mae'r ddau yn gerddorion ac mae Aled, y mab, yn byw yn y gogledd ac mae Neil yn byw yng Nghaerfyrddin, ac newydd ymddeol o ddysgu. Dyma i chi ran o'r sgwrs ble maen nhw'n sôn am effaith y cyfnod clo ar eu bywyd teuluol... Cerddorion - Musicians Turnio pren - Woodturning Rhingt - Rhwng Rhwystredig - Frustrating Ffili - Methu Heolydd - Ffyrdd Ddim rhy ffôl - Ddim yn rhy ddrwg Gweld eisiau - Colli Aelwyd gerddorol - A musical home Pwysleisio - To emphasise A dan ni'n aros efo cerddorion yn y clip nesa. Cafodd Georgia Ruth sgwrs efo'r delynores Catrin Finch. GEORGIA A CATRIN FINCH Mae Catrin wedi bod yn perfformio ers blynyddoedd efo Seckou Keita, sy'n canu'r Kora, offeryn o Orllewin Affrica. Mae Catrin a Seckou wedi rhyddhau tair albwm gyda'i gilydd. Ond doedd ei phrofiad cynta o gydweithio efo perfformiwr Kora ddim yn un hapus iawn. Toumani Diabaté oedd y perfformiwr ac yn Theatr Mwldan, Aberteifi oedd y cyngerdd. Dyma Catrin yn dweud yr hanes... Telynores - Female harpist Offeryn - Instrument Yn llythrennol - Literally I ystyried - Considering Parhau - To continue

This episode currently has no reviews.

Submit Review
This episode could use a review!

This episode could use a review! Have anything to say about it? Share your thoughts using the button below.

Submit Review