Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 29ain Mehefin 2022 - Publication Date |
- Jun 29, 2022
- Episode Duration |
- 00:15:22
Beti a'i Phobol Aled Roberts
Ar Beti a'i Phobol ddydd Sul, mi gaethon ni gyfle i ail-wrando ar sgwrs Beti efo Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, fuodd farw mis Chwefror eleni yn 59 mlwydd oed. Cafodd Aled ei eni a'i fagu yn Rhosllannerchrugog, ger Wrecsam, a dyma i chi flas ar y sgwrs ble mae o'n esbonio wrth Beti beth oedd o'n ei weld yn heriau'r swydd a sut oedd o'n eu hwynebu...
Heriau - Challenges
Hwyrach - Efallai
Arweinydd cyngor - Council leader
Hamddenol - Leisurely
Gwthio - To push
Awyddus - Eager
Adlewyrchu - To reflect
Cryfder - Strength
Twf aruthrol - Huge growth
Drwy gyfrwng - Through the medium of
...ac mae colled mawr i Gymru ac i'r Gymraeg ar ôl Aled Roberts.
Aled Hughes ac Meurig Rees Jones
Buodd Syr Paul McCartney yn perfformio yn Glastonbury wythnos diwetha ac yntau newydd ddathlu ei benblwydd yn 80. Ond oeddech chi'n gwybod bod y Beatles yn ymwelwyr cyson â Phortmeirion? Meurig Rees Jones ydy Rheolwr Lleoliadau Portmeirion, a buodd o'n siarad efo Aled Hughes fore Llun am gysylltiad y canwr a'r ardal dros y blynyddoedd
Rheolwr Lleoliadau - Location Manager
Y cyswllt - The contact
Bythynnod hunanarlwyo - Self catering cottages
Ar les byr - On a short lease
Gatws - Gatehouse
A dyna i chi hanes pobl enwog yn mwynhau gwyliau moethus yn y chwedegau ym Mhortmeirion.
GBYH Campio
Math gwahanol iawn o wyliau sy nesa wrth i Hanna Hopwood holi beth sy'n gwneud bywyd yn haws wrth fynd i wersylla. Kelly Morris sy'n esbonio beth ydy apêl y math yma o wyliau...
Moethus - Luxurious
Gwersylla - Camping
Cyfeillgar - Friendly
Mas tu fas - Outside
Dw i'n dwlu mynd - Dw i wrth fy modd yn mynd
Chwarae aboiti - Playing around
Sbort - Hwyl
Hala amser - Treulio amser
Llanw - Llenwi
Ia, mae gwersylla'n sbort, tydy, ond i'r tywydd fihafio ynde?
BORE COTHI CROQUET 2206
Mae'n debyg fod y gêm croquet wedi dod yn fwy poblogaidd yn dilyn cyfresi fel Bridgerton ac un o'r rhai sy wedi dechrau chwarae'r gêm ydy Davyth Fear o Lanrug ger Caernarfon. Aeth Davyth a'i wraig, Rhiannon, i ddiwrnod agored yng nghlwb croquet Llanfairfechan yn 2018 a phenderfynu rhoi tro arni a dyn nhw ddim wedi edrych yn ôl ers hynny.
Rheolau - Rules
Dyfeisio - Devise
Yr Ymerodraeth Brydeinig - The British Empire
Cymhleth - Complicated
Naill ai - Either
Hanes croquet yn nhref fach lan y môr Llanfairfechan yn fan'na ar Bore Cothi.
DROS GINIO NEIL AC ALED ROSSER
Tad a mab, Neil ac Aled Rosser oedd gwestai dau cyn dau efo Dewi Llwyd. Mae'r ddau yn gerddorion ac mae Aled, y mab, yn byw yn y gogledd ac mae Neil yn byw yng Nghaerfyrddin, ac newydd ymddeol o ddysgu. Dyma i chi ran o'r sgwrs ble maen nhw'n sôn am effaith y cyfnod clo ar eu bywyd teuluol...
Cerddorion - Musicians
Turnio pren - Woodturning
Rhingt - Rhwng
Rhwystredig - Frustrating
Ffili - Methu
Heolydd - Ffyrdd
Ddim rhy ffôl - Ddim yn rhy ddrwg
Gweld eisiau - Colli
Aelwyd gerddorol - A musical home
Pwysleisio - To emphasise
A dan ni'n aros efo cerddorion yn y clip nesa. Cafodd Georgia Ruth sgwrs efo'r delynores Catrin Finch.
GEORGIA A CATRIN FINCH
Mae Catrin wedi bod yn perfformio ers blynyddoedd efo Seckou Keita, sy'n canu'r Kora, offeryn o Orllewin Affrica. Mae Catrin a Seckou wedi rhyddhau tair albwm gyda'i gilydd. Ond doedd ei phrofiad cynta o gydweithio efo perfformiwr Kora ddim yn un hapus iawn. Toumani Diabaté oedd y perfformiwr ac yn Theatr Mwldan, Aberteifi oedd y cyngerdd. Dyma Catrin yn dweud yr hanes...
Telynores - Female harpist
Offeryn - Instrument
Yn llythrennol - Literally
I ystyried - Considering
Parhau - To continue