Please login or sign up to post and edit reviews.
Podlediad Pigion y Dysgwyr 28ain o Fawrth 2023 - Publication Date |
- Mar 27, 2023
- Episode Duration |
- 00:14:20
Pigion Dysgwyr – Fiona Bennett
Weloch chi’r gyfres ‘The Piano’ oedd ar y teledu yn ddiweddar? Cyfres oedd hon sy’n rhoi cyfle i bianydd amatur chwarae o flaen panel o feirniaid i drio ennill gwobr, sef perfformio yn y Festival Hall yn Llundain. Un gymerodd ran yn y gyfres oedd y gantores Fiona Bennet a buodd hi’n siarad gyda Shan Cothi am y profiad
Beirniaid Judges
Cyfres Series
Credwch e neu beidio Believe it or not
Cyfrinach Secret
Cyfansoddi To compose
Angladd Funeral
Hysbys(eb) Advert
Mabwysiadu milgwn Adopting greyhounds
Dere lan Tyrd i fyny
Ar bwys ein gilydd Wrth ymyl ein gilydd
Pigion Dysgwyr – Beti George
Ychydig o hanes Fiona Bennett ar y gyfres ‘The Piano’ yn fanna ar Bore Cothi.
Buodd Delyth Morgan yn chwarae rygbi dros Gymru yn y gorffennol ac nawr mae hi'n rheoli tîm rygbi merched Cymru dan 18 ac 20 oed. Ond ugain mlynedd yn ôl symudodd hi i fyw i Seland Newydd. Cafodd hi waith yno, priododd hi a buodd hi'n datblygu rygbi merched yno.
Dyma Delyth yn sôn wrth Beti George am ble roedd hi yn byw pan oedd hi yn Seland Newydd...
Datblygu To develop
Deugain munud 40 minutes
Deg ar hugain o winllannoedd 30 vineyards
Ariannin Argentina
Selsig yn y rhewgell Sausages in the fridge
Rhyddid Freedom
Sefydlu To found
Gweithgareddau corfforaethol Corporate activities
Tu hwnt Beyond
Pigion Dysgwyr – Finyl
On’d yw bywyd yn Waiheke yn swnio’n wych? Delyth Morgan oedd yn disgrifio’r ynys ar Beti a’i Phobol.
Am y tro cynta mewn tri deg pump o flynyddoedd mae mwy o recordiau finyl yn cael eu gwerthu na CD’s. Beth yw’r apêl felly? Dyna ofynnodd Jennifer Jones i’r ffan finyl Aled Llewelyn ar dros Ginio bnawn Mawrth
Cloriau Covers
Hel To collect
Adnabyddus Famous
Y cyfrwng penodol The specific medium
Yn tyrchu drwy Rummaging through
Ansawdd Quality
Gwatsiad Gwylio
Unigryw Unique
Plethu Meshing
Seinydd clyfar Smart speaker
Pigion Dysgwyr – Cerdded Nordig
Pwy fasai wedi meddwl flynyddoedd yn ôl, on’d ife, byddai finyl yn dod yn ôl i ffasiwn?
Nos Fawrth ar ei rhaglen cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Catrin o Nordig Cymru. Math o gerdded a chadw’n heini yw Cerdded Nordig, a holodd Caryl Catrin sut dechreuodd ei diddordeb yn y maes.
Mwyafrif Majority
Traws gwlad Cross country
Yn fwy ddiweddar More recently
Hyfforddi Training
Pigion Dysgwyr
Wel dyna i chi ffordd wahanol o gadw’n heini – Cerdded Nordig.
Mae Rhian Mills yn ymgynghorydd cwsg, sef person sydd yn helpu pobl i sefydlu patrymau cwsg ac mae busnes gyda hi o’r enw Rested Mama. Cafodd Rhian sgwrs gydag Aled Hughes fore Mercher diwetha gan roi cyngor i ni am beth i’w wneud tasen ni’n deffro ganol nos...……
Ymgynghorydd cwsg Sleep Consultant
Cyngor Advice
Ail-afael To rekindle
Beryg ei bod ar ben That’s it, probably
Syth bin Straight away
Canolbwyntio To concentrate
Synnwyr Sense
Pigion Dysgwyr – Olwen Jones
Cyngor da gan Rhian yn fanna am sut i fynd yn ôl i gysgu ar ôl deffro ganol nos.
Cafodd Olwen Jones ei llun yn ‘The Daily Telegraph’ yn ddiweddar i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched. Mae Olwen a’i theulu yn ffermio ger Tregaron a buodd hi’n rhoi hanes tynnu’r llun wrth Shan Cothi ...
Diwrnod Rhyngwladol y Merched International Woman’s Day
Cartrefol dros ben Very homely
Cwtsio lan Cuddling up
Cwympo mewn cariad Falling in love
Cylchgronau byd eang Worldwide magazines
Sulgwyn Whitsun
Ar yr amod On condition
This episode could use a review!
This episode could use a review! Have anything to say about it? Share your thoughts using the button below.
Submit Review