Please login or sign up to post and edit reviews.
Podlediad Pigion y Dysgwyr 11eg o Ebrill 2023 - Publication Date |
- Apr 11, 2023
- Episode Duration |
- 00:13:58
Pigion Dysgwyr – Al Lewis
Ar Beti a’i Phobol dydd Sul diwetha cafodd Beti gwmni y cerddor Al Lewis fel gwestai. Esboniodd Al sut aeth e ati i sgwennu llythyrau ac i e-bostio er mwyn cael gwaith yn Nashville, Tennessee a llefydd eraill……
Cynhyrchydd Producer
O fewn Within
Cerddoriaeth Music
Dychmygu To imagine
Breuddwydion Dreams
Hynod dalentog Extremely talented
Profiad anhygoel An incredible experience
Hwb A boost
Ar y trywydd iawn On the right track
Cael ei barchu Being respected
Pigion Dysgwyr – Sonia Edwards
Profiad anhygoel i Al Lewis yn fanna yn Nashville, Tenesse.
Buodd y nofelydd Sonia Edwards yn sgwrsio gyda Dei Tomos ar ei raglen yr wythnos diwetha am ei nofel ddirgelwch newydd. Dyma Sonia i sôn mwy….
Llacio To loosen
Dirgelwch Mystery
Llofruddiaeth Murder
Yn feddalach Softer
Ymgynghori To consult
Ymchwil To research
Cyffuriau Drugs
Darganfod To discover
Yn ymarferol Practical
Doethuriaeth PhD
Pigion Dysgwyr – Jason Mohammad
A dyna i chi Sonia Edwards yn rhoi blas i ni ar ei nofel ddirgelwch newydd fydd yn y siopau’n fuan.
Un o westai Shelley a Rhydian yn ddiweddar oedd y darlledwr Jason Mohammad. Mae Shelley a Rhydian yn rhoi cyfle i’w gwestai bob wythnos ddewis caneuon Codi Calon. Un o ddewisiadau Jason oedd “Pride in the Name of Love” gan U2. Dyma fe i sôn mwy am ei ddewis…..
Yn ddiweddar Recently
Darlledwr Broadcaster
Codi Calon Raising the spirits
Cyfweliadau Interviews
Watsio Gwylio
T’m bod Rwyt ti’n gwybod
Atgofion Memories
Pigion Dysgwyr – Theatr Wild Cats
Y darlledwr Jason Mohammad oedd hwnna’n esbonio pam mai “Pride in the Name of Love” oedd ei ddewis fel Cân Codi Calon. Ac roedd angen codi calon arno gan i’w dîm, Dinas Caerdydd, golli i Abertawe yn y ‘Derby’ Cymreig nes ymlaen y diwrnod hwnnw.
Yn Aberhonddu mae yna gwmni theatr arbennig wedi ei sefydlu o’r enw Theatr Wild Cats sy’n gweithio gydag unigolion sydd ag anableddau dysgu. Mae Gwenno Hutchinson yn gwirfoddoli gyda’r Theatr ac esboniodd hi wrth Caryl Parry Jones ar ei rhaglen nos Fawrth, sut aeth ati i helpu’r criw…..
Anableddau dysgu Learning disabilities
Gwirfoddoli To volunteer
Gweithgaredd Activity
Yn gyfleus Convenient
Haeddu To deserve
Cyfraniad Contribution
Cymdeithasu To socialise
Celfyddydau Arts
Pigion Dysgwyr – Vaughan Evans
Gwenno Hutchinson oedd honna’n sôn am y gwaith pwysig mae Theatr Wild Cats yn ei wneud.
Dych chi yn gwybod beth yw Northern Soul? Wel, daeth Vaughan Evans ar raglen Aled Hughes fore Llun wythnos diwetha i esbonio mwy am y symudiad cerddorol hwn……
Symudiad cerddorol Musical movement
Tanddaearol Underground
Curiad Beat
Cefn gwlad The countryside
Tywyll Dark
Digalon Downhearted
Pigion Dysgwyr – Dylan Rhys Parry
A dyna ni’n gwybod llawer mwy am Northern Soul a’r Wigan Casino nawr, diolch i Vaughan Evans.
Mae Dylan Rhys Parry wedi ei ddewis fel un o arweinwyr y rhaglen deledu S4C Ffit Cymru am 2023. Gweinidog yw Dylan sy’n byw yn Coety ger Pen-y-bont ar Ogwr, ond sy’n dod o Gaernarfon yn wreiddiol. Buodd Dylan yn sgwrsio gyda Heledd Cynwal fore Mercher diwetha a gofynnodd Heledd iddo fe’n gyntaf pam ei fod e wedi rhoi ei enw ymlaen i fod yn rhan o’r gyfres.……..
Gweinidog Minister
Y gyfres The series
Gwaed Blood
Clefyd siwgr Diabetes
Canlyniadau Results
Ysgogiad Impetus
Canrannau Percentages
This episode could use a review!
This episode could use a review! Have anything to say about it? Share your thoughts using the button below.
Submit Review