Please login or sign up to post and edit reviews.
Pigion y Dysgwyr 12fed Chwefror 2021 - Publication Date |
- Feb 12, 2021
- Episode Duration |
- 00:16:04
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …
TROI’R TIR
Roedd gêm gynta Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn un gyffrous iawn gyda Chymru yn ennill o bum pwynt yn unig. Pwy tybed oedd Gwenan Morgan Lyttle yn ei gefnogi dydd Sadwrn gan ei bod hi bellach yn byw yng Ngogledd Iwerddon ac wedi priodi Gwyddel? Dyma i chi glip o Gwenan yn sgwrsio gyda Terwyn Davies ar Troi Tir
Pencampwriaeth y Chwe Gwlad - Six Nations Championship
Cefnogi - To support
Gwyddel - An Irishman
Gwartheg - Cattle
Tad-cu - Taid
Bugail - Shepheard
Yn y gwaed - In the blood
Y Weriniaeth - The Republic
Hwyluso - To facilitate
Ar y ffin - On the border
DANIEL GLYN AC ELLIW GWAWR
Dw i’n siŵr bod Gwenan yn hapus iawn dydd Sadwrn ar ôl i Gymru guro’r Iwerddon. Y newyddiadurwraig Elliw Gwawr oedd gwestai Daniel Glyn ar y sioe Frecwast dros y penwythnos. Dyma hi’n sôn am sut mae’r blynyddoedd diwetha wedi bod yn rhai diddorol iawn iddi hi…
Newyddiadurwraig - Female journalist
Anghyffredin - Uncommon
Prif Weinidogion - Prime Ministers
Llywodraethu - To govern
Newid enfawr - A huge change
Llywodraeth Cymru - The Welsh Government
Anhygoel - Incredible
San Steffan - Westminster
Cyn lleied â - As little as
Gwefannau cymdeithasol - Social media
Diddiolch - Thankless
TATŴS TRYSTAN AC EMMA
Elliw Gwawr oedd honna’n sôn am waith newyddiadurwraig wleidyddol yn ystod y blynyddoedd prysur diwetha. Ar ôl i Brooklyn Beckham, y model sy’n fab i David a Victoria Beckham, gael tatŵ arall i ychwanegu at yr holl ink sy ar ei gorff, cafodd Trystan ac Emma sgwrs gydag Elin Mai o Lanberis sy hefyd yn dipyn o ffan o datŵs…
Na fo - Dyna fe/fo
Uniaethu - To empathise
Wastad - Always
Ymhelaethu - To expand
Ysgogi - To inspire
GWEN SGWRS YR HET
Hanes tatŵs Elin Mai yn fan’na ar raglen Trystan ac Emma. Mae het Geraint Lloyd wedi teithio ar draws Gymru wrth i un gwrandäwr ei phasio at wrandäwr arall. Yr wythnos diwetha roedd yr het wedi cyrraedd Castell-Nedd a dyma Geraint yn holi perchennog newydd yr het - Gwen…
Ymgymryd â her - Taking up a challenge
Elusen - Charity
Elwa - To benefit
Gwledd - A feast
FFION DAFIS
Gwen o Gastell-Nedd oedd honna, yn sôn am ei hetiau. Roedd gan yr actores Ffion “gwallt” Dafis ddewis anodd iawn i’w wneud yn ddiweddar - parhau i actio rhan Alwenna yn y gyfres boblogaidd Rownd a Rownd neu wneud cyfres newydd o’r ddrama boblogaidd ‘Byw Celwydd’. Hi oedd gwestai penblwydd Dewi Llwyd dydd Sul gan ei bod yn dathlu ei phenblwyddd yn hanner cant. Dyma hi’n esbonio wrth Dewi pam gwnaeth hi ddewis ‘Byw Celwydd’…
Cyfres - Series
Yn werthfawrogol iawn - Very appreciative
Pryderus - Worried
Cyfuniad - A combination
Troi a throsi - Tossing and turning
Anwyldeb - Affection
Yn wythnosol - Weekly
Magwraeth - Upbringing
FY STORI I - DEWI TUDUR
Penderfyniad anodd iawn yn fan’na i Ffion Dafis.
Mewn rhaglen arbennig o’r enw Fy Stori i, glywon ni hanes yr artist Dewi Tudur sydd yn byw yn yr Eidal erbyn hyn. Yn y rhaglen clywon ni ei fod wedi cael cyfnodau trist iawn yn eu fywyd ond yn y clip yma dyma fe’n sôn am ddigwyddiad hapus iawn newidiodd ei fywyd yn llwyr…
Cyfeillgarwch - Friendship
Gwas y Neidr - Dragonfly
Selio - Based
Diniweidrwydd - Innocence
Cynhyrchwyr - Producers
Dyma fi’n digwydd - I happened to
Ro’n i wedi gwirioni - I was delighted
Unig ac anial - Lonely and desolate
This episode could use a review!
This episode could use a review! Have anything to say about it? Share your thoughts using the button below.
Submit Review