Maddeuant ac addoliad
Podcast |
Bwrw Golwg
Publisher |
BBC
Media Type |
audio
Categories Via RSS
Publication Date |
Feb 05, 2017
Episode Duration |
00:28:19
Mae Llywodraeth Prydain wedi mabwysiadu "cyfraith Alan Turing", yn cynnig pardwn i filoedd o ddynion hoyw a gafodd eu dedfrydu cyn Deddf Troseddau Rhyw 1967. Mae John Sam Jones yn ymuno â John Roberts i ymateb i hyn, a'r hanesydd Elin Jones yn trafod cysyniad ymddiheuro neu gynnig pardwn am ddigwyddiadau hanesyddol. Yn ei bregeth gyntaf fel Archddiacon Ffrainc, fe alwodd Meurig Llwyd ar Anglicaniaid i sicrhau eu bod yn cyfrannu i'r trafod cyhoeddus am grefydd yn y wlad. Mae Meurig yn sôn am ei bregeth, yn ogystal â sefyllfa'r eglwys Anglicanaidd yn Ffrainc. Pa mor bwysig yw'r iaith sy'n cael ei defnyddio mewn gwasanaethau crefyddol? Wrth i'r Pab gyhoeddi adolygiad o'r gorchymyn sy'n rheoli cyfieithiadau o'r offeren Gatholig, mae John yn holi Dafydd John Pritchard a Rhodri Darcy am iaith addoliad.

This episode currently has no reviews.

Submit Review
This episode could use a review!

This episode could use a review! Have anything to say about it? Share your thoughts using the button below.

Submit Review