Gwirionedd Emosiynol
Podcast |
Bwrw Golwg
Publisher |
BBC
Media Type |
audio
Categories Via RSS
Publication Date |
Jan 15, 2017
Episode Duration |
00:28:08
Mae Donald Trump yn wleidydd sy'n hollti barn, ond does dim gwadu ei fod yn awyddus i dorri ei gwys ei hun heb deimlo'r angen i gydymffurfio gyda rheolau arferol gwleidyddiaeth. Dafydd Trystan a Gethin Rhys sy'n ymuno â John Roberts i drafod os ydy'r agwedd yma'n codi cwestiynau ynglŷn â sut y dylai gwleidyddion eraill ymddwyn. Mae Open Doors wedi cyhoeddi ei rhestr blynyddol o wledydd ble mae Cristnogion yn cael eu herlid. Matthew Rees o'r elusen sy'n esbonio'r arwyddocâd. Cafodd y cylchgrawn Cristion ei gyhoeddi am y tro cyntaf yn 1983. Wrth i'r 200fed rhifyn ymddangos, mae John yn cael cwmni'r golygydd cyntaf, Enid Morgan, ac un o'r criw golygyddol presenol, Rhys Llwyd. Ac ar drothwy Wythnos Weddi am Undeb Cristnogol, mae Gethin Rhys yn trafod bwriad yr wythnos a'r thema eleni.

This episode currently has no reviews.

Submit Review
This episode could use a review!

This episode could use a review! Have anything to say about it? Share your thoughts using the button below.

Submit Review