Eglwys Loegr a Phriodasau Un Rhyw
Podcast |
Bwrw Golwg
Publisher |
BBC
Media Type |
audio
Categories Via RSS
Publication Date |
Feb 19, 2017
Episode Duration |
00:27:37
Mae Corff Llywodraethol Eglwys Loegr wedi gwrthod adroddiad gan yr esgobion sy'n argymell na ddylai safbwynt yr Eglwys ar briodasau un rhyw newid. A oes 'na arwyddocâd i'r ffaith mai Tŷ'r Clerigwyr a bleidleisiodd yn erbyn derbyn yr adroddiad? Margaret Quayle, ficer yn Eglwys Loegr, sy'n ymuno â John Roberts i drafod. Bydd cynllun taclo tlodi Llywodraeth Cymru, Cymunedau'n Gyntaf, yn dod i ben erbyn mis Mawrth 2018. Mae John yn holi Caren Brown o Gyda'n Gilydd yng Nghaernarfon ynghylch yr ôl-effaith bosib, ac am y gwaith mae Gyda'n Gilydd yn ei wneud gyda theuluoedd yn yr ardal. Mae Bwrw Golwg hefyd yn cofio'r diweddar Brian Thirsk, a oedd yn weithgar ym maes dileu tlodi. Mae sawl achos wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar o bobl anabl yn wynebu rhwystrau wrth deithio, ac mae Tina Evans yn gyfarwydd iawn â phrofiadau o'r fath. Mae'r cyflwr niwrolegol Friedreich's ataxia yn effeithio ar ei chydbwysedd, ac mae'n defnyddio cadair olwyn. Beth yw profiad Tina, ac a ydy mynediad i drafnidiaeth o wahanol fathau ac adeiladau wedi gwella yn y blynyddoedd diwethaf? Mae cyn-gaplan wedi casglu arian er mwyn adeiladu darn o gelf Gristnogol gyfoes ger un o briffyrdd Prydain. Bydd miliwn o frics yn cael eu defnyddio i greu The Wall, a phob un yn dweud hanes gweddi a gafodd ei hateb. Mae'r cynlluniau sydd ar y rhestr fer wedi'u cyhoeddi, ond beth yw ymateb yr artist a'r dyn cysylltiadau cyheoddus Wyn Melville i'r cysyniad?

This episode currently has no reviews.

Submit Review
This episode could use a review!

This episode could use a review! Have anything to say about it? Share your thoughts using the button below.

Submit Review