Please login or sign up to post and edit reviews.
Dyletswydd Foesol Llywodraethau
Podcast |
Bwrw Golwg
Publisher |
BBC
Media Type |
audio
Categories Via RSS
Publication Date |
Feb 12, 2017
Episode Duration |
00:27:57
Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi mai dim ond 350 o blant sy'n ffoaduriaid a fydd yn cael eu derbyn i Brydain dan gynllun Dubs. Yn America, wedyn, mae'r Arlywydd Trump yn gobeithio ailgyflwyno ei orchymyn gweithredol i wrthod mynediad, dros dro, i bobl o saith gwlad benodol. Y bargyfreithiwr Gwion Lewis sy'n ymuno â John Roberts i drafod yr ystyriaethau cyfreithiol a moesol. A hithau'n Wythnos Genedlaethol Priodas, sut mai paratoi ar gyfer priodi? Mae Rhodri ab Owen yn priodi eleni, ac fel gweinidog mae Carys Ann yn paratoi pobl ar gyfer priodas. Mae Eglwys Ebeneser yng Nghaerdydd yn hysbysebu ei chynllun Blwyddyn Medrau, sef cyfle i brofi gwaith dyddiol eglwys a phrofi galwad i waith o'r fath. Gwion Dafydd oedd y cyntaf i ddilyn y cynllun, ac mae'n esbonio i John sut y cafodd fudd o'r profiad. Ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fe deithiodd Griffith John i Tsieina fel cenhadwr. Mae arddangosfa newydd yn Abertawe yn dweud ei hanes, a'r awdur John Aaron sy'n rhannu'r hanes hwnnw gyda Bwrw Golwg.

This episode currently has no reviews.

Submit Review
This episode could use a review!

This episode could use a review! Have anything to say about it? Share your thoughts using the button below.

Submit Review