Chwilio am Esgob i Landaf - Categories Via RSS
- Publication Date |
- Feb 26, 2017
- Episode Duration |
- 00:28:25
Mae Coleg Etholiadol yr Eglwys yng Nghymru wedi methu â dewis esgob newydd i Landaf. Mae'r cyfrifoldeb, felly, wedi'i drosglwyddo i'r esgobion, a fydd yn ymgynghori gyda chlerigwyr a lleygwyr trwy Gymru cyn gwneud penderfyniad. Mae Wyn Mears yn aelod o'r Eglwys yn Esgobaeth Llandaf, ac yn fab i gyn-esgob Bangor. Beth yw ei farn e am yr oedi, a pha fath o esgob a fyddai'n ei blesio?
Bum mlynedd ar hugain yn ôl, fe symudodd Eglwys Llanfair i adeilad ar stad Penrhys yn y Rhondda, gyda'r bwriad o gynorthwyo'r gymuned leol. Chwarter canrif yn ddiweddarach, mae John Roberts yn holi Sharon Rees sut mae'r gymuned a'r eglwys wedi newid.
Gwell bod yn anffyddiwr nag yn aelod rhagrithiol o'r Eglwys Gatholig - dyna awgrymodd y Pab Ffransis mewn pregeth ddiweddar. Elfed ap Nefydd Roberts sy'n trafod arwyddocâd y datganiad, yn enwedig wrth i Gristnogion baratoi i nodi'r Grawys.
Menywod o Eglwys y Philipinas sydd wedi paratoi'r deunyddiau ar gyfer Dydd Gweddi Byd-Eang y Chwiorydd eleni. Ond beth yw neges y diwrnod, a pham cynnal dydd gweddi o'r fath? Beti-Wyn James sy'n esbonio.
Ac yn olaf, Taith Treth Oxfam. Mae'r elusen wedi bod ar daith, yn trafod anghydraddoldeb treth. Deio Gruffydd o Oxfam sy'n sôn am yr ymweliad â Chaerdydd, a'r hyn a gafodd ei drafod.