Theresa May, Brexit a Mark Drakeford
Podcast |
Gwleidydda
Publisher |
BBC
Media Type |
audio
Podknife tags |
News & Politics
Wales
Categories Via RSS |
Government
Publication Date |
Dec 14, 2018
Episode Duration |
00:26:58
Mae Theresa May yma o hyd, ond beth nesaf i'r Prif Weinidog a Brexit? Ar ôl iddi ohirio pleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin ar ei chytundeb gyda'r Undeb Ewropeaidd, aeth ymlaen wedyn i ennill pleidlais o ffydd yn ei harweinyddiaeth gan yr Aelodau Seneddol Ceidwadol, sydd bellach yn gwybod nad hi fydd prif gynrychiolydd eu plaid yn yr etholiad cyffredinol nesaf. A fydd hi'n sicrhau newidiadau i'r cytundeb, gan sicrhau digon o gefnogaeth yn Nhŷ'r Cyffredin yn y Flwyddyn Newydd, ynteu ai gohirio'r anochel wnaeth hi? Yng nghanol hyn i gyd, cafodd Mark Drakeford ei ethol yn Brif Weinidog Cymru, ac yn ôl ystadegau newydd mae'r wlad unwaith yn rhagor yn perfformio'n waeth yn economaidd nag unrhyw wlad neu ranbarth arall ym Mhrydain. Ai adfywio'r economi fydd y sialens fwyaf iddo? Bethan Sayed, Heddyr Gregory a Dr. Edward Jones sy'n ymuno â Vaughan Roderick.

This episode currently has no reviews.

Submit Review
This episode could use a review!

This episode could use a review! Have anything to say about it? Share your thoughts using the button below.

Submit Review