Please login or sign up to post and edit reviews.
Prydain heb lysgennad yn UDA - Publication Date |
- Jul 12, 2019
- Episode Duration |
- 00:26:59
Ar ôl i Syr Kim Darroch ymddiswyddo fel llysgennad Prydain i Unol Daleithiau America, mae Vaughan Roderick a'i westeion yn trafod rhai o'r cwestiynau sy'n deillio o'r ffrae. Sut a pham y daeth beirniadaeth Syr Kim o weinyddiaeth yr Arlywydd Trump i sylw papur newydd, ac a oedd Mr Trump yn iawn i ddweud y byddai UDA yn rhoi'r gorau i ddelio â Syr Kim oherwydd y sylwadau?
Trafodaeth hefyd ar yr honiadau diweddaraf am wrth-semitiaeth o fewn rhengoedd y Blaid Lafur. Dywedodd cyn-swyddogion wrth raglen Panorama bod rhai o gyfoedion agosaf Jeremy Corbyn wedi ymyrryd yn y broses annibynnol a gafodd ei llunio i ddelio â chyhuddiadau o wrth-semitiaeth. Mae Mr Corbyn wedi gwadu unrhyw ymyrraeth.
Bethan Jones Parry, Sioned Williams a Gary Slaymaker sy'n gwmni i Vaughan.
This episode could use a review!
This episode could use a review! Have anything to say about it? Share your thoughts using the button below.
Submit Review