Prydain heb lysgennad yn UDA
Podcast |
Gwleidydda
Publisher |
BBC
Media Type |
audio
Podknife tags |
News & Politics
Wales
Categories Via RSS |
Government
Publication Date |
Jul 12, 2019
Episode Duration |
00:26:59
Ar ôl i Syr Kim Darroch ymddiswyddo fel llysgennad Prydain i Unol Daleithiau America, mae Vaughan Roderick a'i westeion yn trafod rhai o'r cwestiynau sy'n deillio o'r ffrae. Sut a pham y daeth beirniadaeth Syr Kim o weinyddiaeth yr Arlywydd Trump i sylw papur newydd, ac a oedd Mr Trump yn iawn i ddweud y byddai UDA yn rhoi'r gorau i ddelio â Syr Kim oherwydd y sylwadau? Trafodaeth hefyd ar yr honiadau diweddaraf am wrth-semitiaeth o fewn rhengoedd y Blaid Lafur. Dywedodd cyn-swyddogion wrth raglen Panorama bod rhai o gyfoedion agosaf Jeremy Corbyn wedi ymyrryd yn y broses annibynnol a gafodd ei llunio i ddelio â chyhuddiadau o wrth-semitiaeth. Mae Mr Corbyn wedi gwadu unrhyw ymyrraeth. Bethan Jones Parry, Sioned Williams a Gary Slaymaker sy'n gwmni i Vaughan.

This episode currently has no reviews.

Submit Review
This episode could use a review!

This episode could use a review! Have anything to say about it? Share your thoughts using the button below.

Submit Review