Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 19eg 2020 - Publication Date |
- Jun 19, 2020
- Episode Duration |
- 00:15:25
HEATHER JONES
Mae Dewi Llwyd yn dymuno pen-blwydd hapus i un o’i westeion ar ei raglen bob bore Sul. Yr wythnos yma, y gantores Heather Jones oedd yn torri’r gacen pen-blwydd. Dyma Heather yn cofio am benblwyddi’r gorffennol – ei magwraeth yng Nghaerdydd a’i pherthynas gyda’r canwr Geraint Jarman…
Magwraeth Upbringing
Hudolus Magical
Plentyndod Childhood
Cernyw Cornwall
Bywiog Lively
Swil Shy
Denu To attract
Efengyl Tangnefedd The Gospel of Peace (a hymn)
Yn benderfynol Determined
IFAN EVANS A'R WELSH WHISPERER
Bachgen bach deg mlwydd oed sy’n mynd i Ysgol Cilie Parc ydy Osian, ac ei arwr ydy’r perfformiwr Welsh Whisperer. Ar raglen Ifan Evans cafodd Osian y cyfle i holi ei arwr, ac roedd gyda fe gwestiynau diddorol iawn i’r Welsh Whisperer…
Arwr Hero
Yn y man In a moment
Enwoca Most famous
Glou Quick
Cerddoriaeth Music
Deuawd Duet
Rhed! Run!
Hendy-gwyn Whitland
YNYS YR HUNAN YNYSWYR
Bob wythnos ar y rhaglen Ynys yr Hunan Ynyswyr mae dau westai yn trafod eu hoff lyfrau, eu hoff gerddoriaeth a’u hoff ffilmiau, er mwyn trio perswadio Dylan Ebenezer i adael iddyn nhw aros ar yr ynys. Y gwesteion wythnos diwetha oedd y gomedïwraig Esyllt Sears a’r actor Richard Ellis ac yn y clip mae’r ddau westai yn sôn am beth sydd wedi eu helpu drwy’r cyfnod clo, a beth fasen nhw’n mynd gyda nhw i’r ynys ...
Hunan-ynyswyr Self-isolators
Cyfnod clo Lockdown
Sylweddoli To realise
Pa mor llwglyd How hungry
Oesoedd yn ôl Ages ago
Argymell To recommend
PATRICK RIMES A BETI GEORGE
Un sy’n gwneud rhywbeth bach yn wahanol yn ystod y cyfnod clo ydy’r cerddor Patrick Rimes. Mae Patrick wedi dod yn ôl i’w gartref ym Methesda, Gwynedd dros y cyfnod er mwyn helpu ei fam gyda’r busnes caws llaeth dafad...
Cerddor Musician
Godro To milk
Ar y gweill In the pipeline (idiom)
Ei chael hi’n anodd Finding it difficult
Pa mor hurt How stupid
Brwdfrydig Enthusiastic
Wedi cymryd yr awenau Taken charge of
Diadell A flock
Ffynhonnell Source
Rhy styfnig Too obstinate
Annibynnol Independent
DROS GINIO
Buodd Jennifer Jones yn holi Jenni Hall sy’n fam i 10 o blant ar Dros Ginio yr wythnos yma. Sut, tybed, mae hi’n ymdopi gyda’r cyfnod clo? Dyma i chi flas ar y sgwrs...
Ymdopi To cope
Prif heriau Main challenges
Gafon ni drafferth We had difficulties
Hawsach Easier
Sylwadau Comments
STEFFAN RHYS HUGHES
Mae’r cerddor Steffan Rhys Hughes wedi bod yn gwneud fideos cerddorol ers dechrau'r cyfnod clo. Penderfynodd e ddod â chriw o Gymry'r West End at ei gilydd i berfformio caneuon o sioeau a ffilmiau cerdd - er mwyn rhoi gwên ar wynebau pobl. Y syniad oedd codi arian i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, ac i annog pobl i fynd yn ôl i'r theatrau pan mae hi'n saff i wneud hynny. Daf a Caryl glywodd yr hanes....
Annog To encourage
Cantorion Singers
Balchder Pride
Canlyniad Result
Cysylltu â To contact
Taflu rhwyd To cast a net
Yn falch o wneud Happy to do so
Mor hael So generous
Negeseuon Messages
Creadigol Creative