Please login or sign up to post and edit reviews.
Podlediad Pigion y Dysgwyr Gorffennaf 17eg 2020 - Publication Date |
- Jul 17, 2020
- Episode Duration |
- 00:16:04
RHYS GWYNFOR
Y canwr Rhys Gwynfor oedd yn cadw cwmni i Shelley a Rhydian ar y Sioe Sadwrn. Cawn glywed ychydig o hanes teulu Rhys i ddechrau cyn iddo fe rannu’r gyfrinach am sut i ennill cystadleuaeth Cân i Gymru, fel gwnaeth e gyda’r band Jessop a’r Sgweiri....
Cyfrinach Secret
Cystadleuaeth Competition
Cynllun Plan
Pentre genedigol Native village
Del Pert
Mwy neu lai More or less
Namyn With the exception of
Ar lwyfan On stage
Twyllo To cheat
HENO AUR AC ANGHARAD MAIR
Mae cyfres newydd yn edrych yn ôl ar raglen Heno yn y 90au wedi dechrau ar S4C – Heno Aur. Angharad Mair fuodd yn sôn am y gwaith o gasglu clipiau o’r archif ar gyfer y gyfres gyda Lisa Gwilym fore Sul.
Cyfres Series
Casglu Gathering
Digideiddo Digitising
Ymwybodol Aware
Gwerth chweil Worthwhile
Gwahanol agweddau Different aspects
Amlwg Obvious
Cyfweliadau Interviews
Dadansoddi breuddwydion Analysing
Diniwed Innocent
PENBWLYDD HAPUS CARYL LEWIS
Yr awdures Caryl Lewis oedd gwestai penblwydd Dewi Llwyd yr wythnos yma, ac dyma hi’n sôn sut mae ei phlant yn ei helpu hi i ysgrifennu nofelau….
I’r perwyl hwnnw For that purpose
Annibynnol Independent
Cyn i chi gyhoeddi Before you publish
Eu barn nhw Their opinion
Tu hwnt Extremely
Beirniadol Critical
Llym Harsh
Doniol Funny
Addasu To adapt
Eu hawydd nhw Their appetite
Ysbrydoliaeth Inspiration
HEDDLU GOGLEDD CYMRU
Mae yna gyfres newydd ar Radio Cymru sy'n dilyn rhai o blismyn y gogledd wrth eu gwaith bob dydd. Dyma flas ar Heddlu Gogledd Cymru gyda hanes un o’r plismyn yn delio gyda pherchennog ci oedd wedi lladd dafad.
Digwyddiad Incident
Dianc To escape
Tennyn A lead
Bellach By now
Ymgartrefu To settle
Hyderus Confident
Y pellter The distance
Wal gerrig Stone wall
Dinistro To destroy
Bwriadu To intend
BRECWAST LISA ANGHARAD
Mae Llio Angharad yn blogio am fwyd a hi oedd yn cadw cwmni i Lisa Angharad ar y Sioe Frecwast fore Sadwrn. Ac wrth gwrs – roedd y ddwy eisiau siarad am frecwast!
Dyfeisgar Innovative
Creadigol Creative
Anhygoel Incredible
Ansicr Uncertain
Cefnogi To support
Sicrhau To ensure
ALLAN WILLIAMS A GERAINT LLOYD
Nos Fawrth buodd Geraint Lloyd yn sgwrsio gyda Allan Williams o Flaencwrt yng Ngheredigion sydd yn dathlu hanner can mlynedd fel barbwr eleni. Buon nhw’n sôn am sut mae byd y barbwr wedi newid dros y blynyddoedd a daeth Geraint o hyd i gysylltiad teuluol gyda’r barbwr yn ystod y sgwrs.
Cysylltiad teuluol Family connection
Amrywio Varying
Pryd hynny At that time
Trwm ei glyw Hard of hearing
Cerwch! Get away! ( meaning you don’t say)
Y Parchedig The Reverand
This episode could use a review!
This episode could use a review! Have anything to say about it? Share your thoughts using the button below.
Submit Review