Podlediad Pigion y Dysgwyr 7fed o Chwefror 2023 - Publication Date |
- Feb 07, 2023
- Episode Duration |
- 00:15:23
Pigion Dysgwyr – Shan Jones
Dych chi wedi gwylio’r rhaglen, Priodas Pum Mil ar S4C o gwbl? Mae tîm y rhaglen yn gwneud holl drefniadau priodas ac yn ffilmio’r cyfan. Ar Chwefror 19 bydd priodas Shan Jones o bentref Llanuwchllyn a’i gŵr Alun i’w gweld ar y rhaglen. Priododd y ddau haf y llynedd, a chafodd Shan Cothi ar Bore Cothi gyfle i holi Shan Jones ar ddydd Santes Dwynwen, gan ddechrau drwy ofyn, sut brofiad oedd e i gael y camerâu yn eu dilyn nhw ar y diwrnod mawr?
Ffeind Caredig
Cymwynasgar Obliging
Am oes For life
Ystyried To consider
Goro (gorfod) fi wneud dim byd Doedd rhaid i mi wneud dim
Anhygoel Incredible
Rhannu’r baich Sharing the load
Pwysau Pressure
Clod Praise
Pigion Dysgwyr – Gareth John Bale
Shan Jones oedd honna’n sôn am y profiad o gael tîm Priodas Pum Mil i drefnu ei phriodas.
Nesa, dyn ni’n mynd i gael blas ar sgwrs gafodd Bethan Rhys Roberts gyda Gareth Bale ar ei rhaglen Bore Sul. Nage nid y Gareth Bale yna , ond yr actor Gareth John Bale. Mae e’n actor sydd wedi gweithio ar nifer o ddramâu, nid am bel -droed y Gareth Bale arall, ond yn hytrach am rygbi ac yn arbennig felly sioe- un-dyn ble roedd e’n portreadu Ray Gravell...
Mwy diweddar More recently
Yn gyfarwydd Familiar
Hirgron Oval
Degawd Decade
Canmlwyddiant Centenary
Awyrgylch Atmosphere
Naws Mood
Ymateb ysgytwol A terrific response
Her A challenge
Uniaethu gyda To identify with
Pigion Dysgwyr – Munud i Feddwl 31.1
Nid rygbi ond pêl-droed oedd thema Munud i Feddwl y Parchedig Ddoctor Manon Ceridwen James fore Mawrth ar Bore Cothi. Beth allen ni ddysgu o wylio’r gêm gwpan gyffrous ddiweddar rhwng Wrecsam a Sheffield Utd tybed? Gwerthfawrogi ein cymuned yn un peth, yn ôl Manon..
Parchedig Reverend
Gwerthfawrogi To appreciate
Cynghrair League
Gornest Match
Tylwyth teg Fairy
Diffuant, angerddol Genuine, Passionate
Diwylliant Culture
Dehongli To interpret
Cyfrifoldeb Responsibility
Cyfraniad Contribution
Pigion Dysgwyr – Nia Wyn Jones
Manon Ceridwen James oedd honna’n rhannu Munud i Feddwl gyda ni ar Bore Cothi.
Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobl wythnos diwetha oedd Dr Nia Wyn Jones o Brifysgol Bangor. Hanes Cymru ydy’r pwnc mae hi’n darlithio arno a gofynnodd Beti iddi hi’n gynta sut mae mae hi’n llwyddo i gael ei myfyrwyr i gymryd diddordeb yn y pwnc…..
Darlithio To lecture
Cyfleu’r wybodaeth To convey the information
Cymhleth Complicated
Gwrthryfel Rebellion
Taith dywys Guided tour
Y Gadeirlan The Cathedral
Y Mers The Marches
Esgob Bishop
Bodoli mewn dogfennau Existing in documents
Goroesi To survive
Pigion Dysgwyr – Salsa
Wel dyna syniadau ymarferol gwych o ddod a hanes Cymru yn fyw on’d ife?
Nos Fercher cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Sion Sebon. Mae Sion yn mynd i nosweithiau clwb Salsa Bangor yn rheolaidd, a dyma fe’n rhoi syniad i ni o beth sy’n digwydd yn y nosweithiau hyn...
Yn rheolaidd Regularly
Gosodedig Fixed
Symudiadau pendant Definite moves
Cysylltiad Connection
T’bod? (wyt) Ti’n gwybod?
Pigion Dysgwyr – Bat out of Hell
A dyna ni, os dych chi’n byw ochrau Bangor ac yn ffansïo ‘chydig o salsa , dych chi’n gwybod ble i fynd.
Mae Sioned Evans o Bancyfelin ger Caerfyrddin yn Sydney Awstralia ar hyn o bryd, yn gweithio ar Sioe Gerdd Bat Out of Hell fel Is Gyfarwyddwr ac mae hi hefyd yn chwarae’r allweddellau yn y gerddorfa. Cafodd Shan Cothi sgwrs gyda Sioned wythnos diwetha gan ofyn iddi hi’n gynta faint o bobl oedd yn y cast.
Sioe Gerdd Musical
Is Gyfarwyddwr Associate Director
Allweddellau Keyboard
Cerddorfa Orchestra
Offerennau taro Percussion instruments