Please login or sign up to post and edit reviews.
Podlediad Pigion y Dysgwyr 3ydd o Orffennaf - Publication Date |
- Jul 03, 2020
- Episode Duration |
- 00:15:10
Enw’r Clip: Love Island
Enw’r rhaglen: Y Sioe Sadwrn
…ydych chi un o ffans Love island? Doedd Shelley Rees un o gyflwynwyr Y Sioe Sadwrn ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd ar y rhaglen ond cafodd hi a Rhydian Bowen Phillips gyfle ar y Sioe Sadwrn i holi un oedd wedi cymryd rhan yn y rhaglen – Connagh Howard o Gaerdydd…
Cyflwynwyr Presenters
Cyfle Opportunity
Am y gorau For the best
Wedi arafu Had slowed down
Cwrdd â To meet
Troslais Voiceover
Bagiau ffa Bean bags
Cymreictod Welshness
Enw’r Clip: Robert Llywelyn Tyler
Enw’r rhaglen: Beti a’i Phobol
Hanesydd o Gasnewydd, Robert Llywelyn Tyler, gafodd ei holi gan Beti George yr wythnos hon. Mae Robert yn byw yn Abu Dhabi erbyn hyn ond mae hanes Cymru a’r Gymraeg yn bwysig iawn iddo fe
Hanesydd Historian
Glöwr Coal Miner
Yr Ail Ryfel Byd The Second World war
Casnewydd Newport (Gwent)
Stad Cyngor Council estate
Ysgol Uwchradd Secondary school
Lladin Latin
Arddegau Teenage years
Cadw cysylltiad To keep in contact
Cyfeillion Friends
Enw’r Clip: Cân Sara
Enw’r rhaglen: Ynys yr Hunan Ynyswyr
Gwesteion Dylan Ebenezer ar Ynys yr Hunan Ynyswyr yr wythnos hon oedd yr actor Llŷr Ifans a’r hanesydd a’r cyflwynydd Sara Huws. Dyma Sara yn dewis cân sydd yn un arbennig iawn iddi hi. ..
Hunan Ynyswyr Self isolators
Cerddorol Musical
Hafau Summers
Dylanwad Influence
Gwaddol Inheritance
Corfforol Physical
Campwaith Masterpiece
Enw’r Clip: Sharon Roberts
Enw’r rhaglen: Daniel Glyn
Sharon Roberts, neu Gaynor ar Pobol y Cwm, fuodd yn ateb Cwestiynau Diog Daniel Glyn. Dechreuodd Daniel drwy ofyn i’r actores oedd hi’n hapus gyda’r enw Sharon pan oedd hi’n blentyn…
Cwestiynau Diog Lazy Questions
Y gyfres The series
Direidus Mischievous
Wedi cael fy hudo I was charmed
Dros ei ben a’i glustiau Head over heels
Un ai Either
Achub mynydd Mountain rescue
Wedi dy sbarduno Had spurred you
Pryd a gwedd Looks
Chwarae cuddio Playing hide and seek
Enw’r Clip: Y Theatr Genedlaethol
Enw’r rhaglen: Daf a Caryl
Mae Theatr Genedlaethol Cymru a BBC Cymru Fyw wedi creu tair drama feicro i fynd ar lein yn ddiweddar. Dyma’r actor Tara Bethan sydd yn cymryd rhan yn y dramâu yn sôn amdanyn nhw
wrth Dafydd a Caryl
Yn ddiweddar Recently
Theatr Genedlaethol Cymru National Theatre of Wales
Ar y cyd Jointly
Y bwriad The intention
Cyfarwyddwyr Directors
Yr ochr dechnegol The technical side
Sain Audio
Ongl Angle
Torri ar draws To interrupt
Hynod effeithiol Highly effective
Enw’r Clip: Ffrind newydd Rhian
Enw’r rhaglen: Galwad Cynnar
Dyma Rhian Arwel o Lantrisant yn sôn am ffrind newydd sydd wedi dod i fyw gyda hi a’i theulu yn ddiweddar. Gerallt Pennant oedd yn holi Rhian am hanes Wil y ffrind newydd
Hwyaden Duck
Yng nghyffiniau In the area
Yn tywynnu Shining
Lapio Wrapping
Cael gwared To get rid
Ymchwilo To research
Y caethiwo The confinement
Crwydro o’r nyth Wandering from the nest
This episode could use a review!
This episode could use a review! Have anything to say about it? Share your thoughts using the button below.
Submit Review