Podlediad Pigion y Dysgwyr 2il o Awst 2022 - Publication Date |
- Aug 02, 2022
- Episode Duration |
- 00:13:47
Gwneud Bywyd yn Haws
Hanna Hopwood yn holi Gwenllian Thomas, sy’ wrth ei bodd yn gwneud triathlon – nofio, rhedeg a beicio! Mae hi’n fam brysur ond mae cymryd rhan mewn triathlon yn rhan bwysig o’i bywyd. Sut dechreuodd ei diddordeb yn gamp tybed?
Camp Sport
Bant I ffwrdd
Dim taten o ots Dim ots o gwbl
Croesawu To welcome
Meddylfryd Mindset
Rhannu profiadau To share experiences
Dros Frecwast – Gemau'r Gymanwlad
Gwenllian yn fan’na yn sôn am ei diddordeb mewn triathlon sef un o’r campau cynta i ddigwydd yn Ngemau’r Gymanwlad eleni. Agorwyd y Gemau yn Birmingham ar yr 28ain o Orffennaf a chafodd Ifan Gwyn Davies sgwrs efo Ashleigh Barnikel sy’n cymryd rhan yn y Gemau fel aelod o garfan Jiwdo Cymru...
Gemau’r Gymanwlad Commonwealth Games
Carfan Squad
Un fodfedd dros bum troedfedd Five foot one
Dwywaith ei maint Twice her size
Pencampwraig Champion (female)
O ddifri Seriously
Rhyngwladol International
Torfeydd Crowds
Ail wynt Second wind
Dros Frecwast – Ewros y merched
A phob lwc i garfan Cymru yn y Gemau ynde?
Mi wnawn ni aros ym myd y campau efo’r clip nesa ‘ma, ond i fyd pêl-droed y tro ’ma ac i gystadleuaeth Ewros y Merched 2022. Y Gymraes Cheryl Foster oedd yn dyfarnu’r gêm gynderfynol rhwng Ffrainc a’r Almaen wythnos diwetha ac roedd Cheryl yn arfer chwarae i dîm pêl-droed merched Cymru. Lowri Roberts fuodd yn sgwrsio efo Owain Llyr cyn y gêm..
Dyfarnu To referee
Cynderfynol Semi final
Y Seintiau Newydd TNS
Dychmygu To imagine
Ysbrydoli To inspire
Y genhedlaeth nesa The next generation
Bore Cothi
Yr Almaen enillodd gan fynd â nhw i’r ffeinal yn erbyn Lloegr, ac mi gafodd Cheryl gêm dda iawn fel dyfarnwr.
Cafodd Shan Cothi sgwrs efo Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, Helgard Krause Mae Helgard yn dod o ardal Pfalz yn Yr Almaen yn wreiddiol, a daeth hi i Gymru yn 2005 ac erbyn hyn mae’n byw yn Aberaeron. Dwy flynedd ar ôl iddi hi symud i Gymru, dechreuodd Helgard ddysgu Cymraeg ac o fewn ychydig fisoedd, roedd hi’n rhugl. Pa mor anodd oedd dysgu Cymraeg iddi hi…?
Prif Weithredwr Chief Executive
Parhau To continue
Mwyafrif Most
Aled Hughes
Ac mae Helgard yn cael ei hanrhydeddu yn yr Eisteddfod eleni drwy dderbyn y Wisg Werdd. Buodd Aled Hughes yn siarad efo Meirion Pritchard o Landysul ond sy nawr yn byw ac yn gweithio yn Efrog Newydd efo cwmni Meta. Dyma’r cwmni sy’n berchen ar Facebook, Instagram a Whatsapp ac sy’n datblygu’r dechnoleg nesa ym myd realaeth rithiol , neu virtual reality. Dyma Meirion yn sôn ychydig wrth Aled am ei gefndir ac am ei waith..
Anrhydeddu To honour
Y Wisg Werdd The Green Gown
Efrog Newydd New York
Sy’n berchen ar Which owns
Datblygu To develop
Amrywiol Varied
Hyrwyddo To promote
Pensaer Architect
Celf Art
Dylunio To design
Dros Ginio Guto ac Elis
Meirion Pritchard oedd hwnna’n sôn am sut dechreuodd ei ddiddordeb yn y byd digidol
Dau frawd oedd gwesteion Alun Thomas ar “Dau cyn Dau” bnawn Llun. Dau fardd o bentre Trefor yng Ngwynedd oedd y gwestai. Guto Dafydd, sydd wedi ennill y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith a’i frawd Dr Elis Dafydd sydd wedi ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd. Gofynnodd Alun i Guto’n gynta oedd y cysylltiad efo barddoniaeth yna pan oedd o’n ifanc
Barddoniaeth Poetry
Ddim fel y cyfryw Not as such
Gwirioni ar Dwlu ar
Pori To browse
Adeiladol Constructive
Sylw a bri Attention and fame
Clod Praise
Cenfigen Jealousy
Cyfathrebu To communicate
Aeddfedu To mature