Podlediad Pigion y Dysgwyr 11eg o Fedi 2020 - Publication Date |
- Sep 11, 2020
- Episode Duration |
- 00:11:02
TRYSTAN AC EMMA – TX: 31.8.20 – CYFUNIADAU RHYFEDD O FWYDYDD
Bwyd oedd yn cael sylw Emma Walford a Trystan Ellis-Morris wythnos diwetha ac yn y clip yma cawn glywed am rai o’r cyfuniadau rhyfedd o fwydydd mae rhai pobol yn eu mwynhau…
Cyfuniadau rhyfedd Strange combinations
Sylw Attention
Mae’n debyg Apparently
Anarferol Unusual
Fatha Fel (yr un fath â)
GARI WYN – TX: 31.8.20 – SGWRS AM DECHNOLEG ARIAN
Cwstad a grefi – ych a fi! Yn rhaglen gyntaf ei gyfres newydd sy’n rhoi sylw i bob math o fusnesau, cafodd Gari Wyn sgwrs gyda Euros Evans, sydd yn hoff iawn o Bitcoins. Roedd Gari eisau gwybod pam bod Euros mor hoff o’r arian newydd...
Hwyrach (ŵrach) Efallai
Ysgubol Sweeping
Aur Gold
Sylweddoli To realise
Pres Arian
Ffydd Faith
Mudiad A movement
Anhygoel Incredible
Cofnod arian Financial record
Maes cymleth A complicated field
RHAGLEN ALED HUGHES – TX: 1.9.20 – TRAFOD CADW GWENYN EFO GRUFF REES
Tybed ydy Euros yn iawn a byddwn ni gyd yn defnyddio Bitcoins yn y dyfodol? Dyn ni wedi cael sawl stori am gadw gwenyn ar y podlediad yn ddiweddar ond ar raglen Aled Hughes clywon ni bod carchar yn Lloegr wedi dechrau cadw gwenyn. Ydy hyn yn medru bod o help i’r rhai sydd yn y carchar? Dyna ofynodd Aled i Gruffydd Rees ...
Gwenyn Bees
Carchar Prison
Ail-ddysgu To re-educate
Heol (hewl) Road
Rhwydd Hawdd
Cwyr Wax
Mas Allan
Cwch (gwenyn) Bee hive
Paill Pollen
CLIP Y SIOE FRECWAST - ADAM YN YR ARDD - TX 01.09/20
Gruffydd Rees yn fan’na yn esbonio sut basai cadw gwenyn yn gallu helpu’r rhai sy yn y carchar. Bob mis ar Sioe Frecwast Radio Cymru 2 mae’r garddwr o Gorslas yn Sir Gaerfyrddin, Adam Jones, yn rhoi cyngor i Daf a Caryl. Tatws a thomatos oedd yn mynd a’i sylw yn y clip nesa. Dechreuodd Adam drwy edrych yn ôl ar dywydd mis Awst a sut mae hynny wedi effeithio ar yr ardd….
Rhoi cyngor to give advice
Rhyfeddol Strange
Diogelu To secure
Cidnabêns Kidney beans
Ffyn Sticks
Cynaeafu To harvest
Plicio To pluck
Medi ffrwyth dy lafur Reaping the fruits of your labour
Ffa dringo Runner beans
Caledu To harden
Prennaidd Wooden
Plannu To plant
RHAGLEN GERAINT LLOYD - CLIP O SGWRS TELERI BOWEN – AR Y MAP CYNWYL ELFED - TX: 1.9.20
Adam Jones oedd hwnna‘n rhoi cyngor i Daf a Caryl am beth i’w wneud gyda’u tomatos a’u tatws. Pa mor dda dach chi’n nabod eich milltir sgwâr?
Wel pob nos Fawrth, mae Geraint Lloyd yn dod i nabod pentref neu dref wahanol yng Nghymru. Yn y clip nesa Cynwyl Elfed oedd yn cael sylw, ac un sydd yn nabod y lle yn dda ydy Teleri Bowen…
Milltir sgwâr Square mile
Gwledig Rural
Y priffordd The highway
Lan I fyny
Tad-cu Taid
Teuluol Familial
Diflannu To disappear
Sefydlu To establish
Y chweched ganrif The sixth century