Please login or sign up to post and edit reviews.
Podlediad Pigion i Ddysgwyr: 12fed o Fawrth 2020 - Publication Date |
- Mar 12, 2020
- Episode Duration |
- 00:13:32
Rhaglen Aled Hughes - Cŵn defaid
gwrando'n astud - listening attentively
hyfforddwr cŵn defaid - sheepdog trainer
o fri - of renown
chwip o sgil - a heck of a skill
y prif ci - the main dog
y brenin - the king
pencampwriaeth - championship
llinach - pedigree
gast - bitch
ara deg - slowly
Aeth Aled Hughes draw i Langwm ger y Bala i siarad gydag Aled Owen am ei gŵn defaid. Dyma i chi flas ar y sgwrs...
Stiwdio - Iaith Drama
adlewyrchu cymdeithas ddwyieithog - reflecting the bilingual society
colofnydd teledu - television columnist
yn llwyr uniaith - totally monolingual
cyd-destun - context
ar bwys - near
amddiffyn - to defend
parchu'r gynulleidfa - respect the audience
cyfarwydd - familiar
y dihiryn - the villain
sarhâd - insult
"Aled Hughes yn fan'na yn siarad am gŵn defaid gydag Aled Owen.
Maenifer o ddramâu ar S4C y dyddiau hyn yn defnyddio llawer o Saesneg yn ogystal â'r Gymraeg. Mae rhai yn dweud bod hyn yn adlewyrchu cymdeithas ddwyieithog Cymru, ond cwestiwn Nia Roberts i'r colofnydd teledu Sioned Williams oedd ydy hi'n bosib cael y dramâu hyn yn Gymraeg yn unig. Dyma oedd gan Sioned i'w ddweud...
Ifan Evans - Bryan yr Organ
adnabyddus - famous
emynau - hymns
pwy feddyliai - who would think
cymanfa ganu - hymn singing festival
ffefrynau - favourites
ymarfer - rehearsing
y cywair - the key (music)
"Wel doedd yna ddim llawer o Saesneg yn y sgwrs gafodd Ifan Evans gyda Bryan yr Organ. Mae Bryan yn llais cyfarwydd iawn ar Radio Cymru a'r wythnos diwetha roedd e'n dathlu ei ben-blwydd yn 70. Ond ddim parti pen-blwydd cyffredin bydd Bryan yn ei gael fel buodd e'n sôn wrth Ifan...
Rhaglen Aled Hughes - Ela Richards
Diwrnod Rhyngwladol y Menywod - International Women's Day
Y Rhyfel Fawr - The First World War
Cadeirydd - Chair
Y Groes Goch - The Red Cross
Gwlad Groeg - Greece
trwsiadus - tidy
dychwelyd - to return
cofeb - memorial
parch - respect
uffern - hell
".. a dw i'n siiŵr ei bod hi wedi bod yn gymanfa i'w chofio. Penblwydd hapus Bryan. Roedd hi'n Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ddydd Llun ac mi gafodd Aled Hughes sgwrs gyda'r hanesydd Efa Lois, am fenyw arbennig iawn sef Ela Richards. Dyma i chi ychydig o'i hanes...
"
Sioe Fore Radio Cuymru 2 - Padi
ysbrydoliaeth - inspiration
Archdderwydd - Archdruid
fel tae - as it were
y fath stori - such a story
cymeriad - character
uniaethu - to empathise
wedi ei chreu - had been created
rôn i'n dotio ati hi - I doted on it
nerth - strength
deynudd sgwennu - writing material
"Hanes menyw arbennig iawn yn fan'na - Ela Richards o Lanbedr Pont Steffan. Dydd Mercher cafodd ambell i berson adnabyddus gyfle i ddewis cân sydd wedi eu hysbrydoli nhw. Cân 'Padi' gan y band ' Mynediad am Ddim' oedd dewis yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd a dyma fe'n esbonio pam wrth Dafydd a Caryl ...
Bore Cothi - Menna Elen
addysg gorfforol - physical education
arlunio - drawing
rhyddhad - freedom
mynd bant - to go away
cynllunio - planning
yn rhwyddach - easier
denu - to attract
dwlu dysgu - love teaching
strwythuro - structured
yn glou - quickly
"Yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd oedd hwnna yn sôn am gân wnaeth ei ysbrydoli. Mae'n amlwg bod dysgu plant yn Kuwait wedi ysbrydoli Menna Elen o Lanymddyfri. Mae Menna yn ferch arbennnig sy wedi teithio i 26 gwlad yn barod er mai dim ond 25 oed yw hi. Dyma hi'n dweud wrth Shan Cothi pam ei bod yn mwynhau dysgu yn Kuwait gymaint.
This episode could use a review!
This episode could use a review! Have anything to say about it? Share your thoughts using the button below.
Submit Review