Please login or sign up to post and edit reviews.
Pigion y Dysgwyr Tachwedd 6ed 2020 - Publication Date |
- Nov 06, 2020
- Episode Duration |
- 00:14:58
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …
Shelley a Rhydian - Sioe Sadwrn
Roedd yr actor Ieuan Rhys yn astudio drama yn y coleg pan gafodd ei gyfle cynta i actio’n broffesiynol ac yn fuan iawn dechreuodd actio rhan Sarjant James yn Pobol y Cwm a buodd e’n actio’r rhan hwnnw am flynyddoedd maith. Fe oedd un o westeion Shelly a Rhydian ar y Sioe Sadwrn a dyma fe’n esbonio sut cafodd e ei swydd actio gynta…
Cwpla - To finish
Lan llofft - Upstairs
Cyfweliadau - Interviews
Cwrdd â - To meet
Pennod - Episode
Parodd - It lasted
Huw Stephens a Huw Chiswell - Sioe Frecwast Radio Cymru 2
Yr actor Ieuan Rhys oedd hwnna’n sôn am sut cafodd o’r cyfle i actio ar Pobol y Cwm. Mae Huw Stephens yn mynnu bod ei westeion yn ateb ei gwestiynau drwy roi’r gair Cocadwdl o flaen yr ateb. Dw i’n siŵr ei bod hi’n ddigon anodd i gofio’r holl atebion yes/no yn Gymraeg heb y dasg ychwanegol honno! Y canwr Huw Chiswell oedd yn ateb y cwestiynau Cocadwdl yr wythnos diwetha a dyma i chi sut aeth o ymlaen…
Diflas - Boring
Bronoeth - Topless
Eitha anghyffredin - Quite unusual
Cwlwm - Knot
Yn benodol - Specifically
Fy nghlustffonau - My headphones
Ymwrthod - To reject
Cyfaill - Friend
Suro’r syniad - Spoiled the idea
Fy isymwybod - My subconcious
Dewi Llwyd a Shan Cothi - Dewi Llwyd
Huw Chiswell yn cocadwdlio efo Huw Stephens yn fan’na. Fel arfer cyflwyno rhaglenni mae Shan Cothi ond hi oedd gwestai Penblwydd Dewi Llwyd ddydd Sul. Sut oedd Shan am ddathlu’r diwrnod mawr tybed?
Ffordd unigryw - An unique way
Alla i ddychmygu - I can imagine
Yn hŷn (e)to - Older again
Marchogaeth - Horse riding
Uniaethu - To empathise
Meddiant - Possession
Fy niweddar ŵr - My late husband
Teulu gofaint - Blacksmith family
Angerdd - Passion
Daniel Glyn a Hannah Daniel - Sioe Frecwast Radio Cymru 2
Penblwydd hapus iawn i Shan Cothi. Yr actores Hannah Daniel oedd yn ateb Cwestiynau Diog Daniel Glyn wythnos diwetha a dyma i chi flas ar ei hatebion hi…
Cwestiynau diog - Lazy Questions
Cymeriad - Character
Eitha pert - Quite pretty
Hoff lwyfan - Favourite stage
Amgueddfa - Museum
Darlithoedd - Lectures
Atgofion melys iawn - Very sweet memories
Lisa Gwilym a Gary Melville
Yr actores Hannah Daniel yn cofio am ei dyddiau ysgol wrth ateb Cwestiynau Diog Daniel Glyn. Lisa Gwilym oedd yn cyflwyno rhaglen Aled Hughes wythnos diwetha a buodd hi’n sgwrsio gyda Gary Melville am hanes recordiau 7 modfedd…
Unol Daleithau - United States
Poblogaidd - Popular
Creu - To create
Offer - Equipment
Gwasgu - To press
Rhyddhau - To release
Gan amla(f) - More often than not
Disodli - To replace
Trystan ac Emma – Post Cyntaf
Dipyn bach o hanes y byd recordiau yn fan’na gan Gary Melville. Cafodd seremoni wobrwyo BAFTA Cymru ei chynnal nos Sul a dau o’r enillwyr oedd Trystan Ellis Morris ac Emma Walford am eu gwaith yn cyflwyno’r gyfres Prosiect Pum Mil. Kate Crocket gafodd gyfle i longyfarch y ddau ar Post Cynta’ fore Llun…
Seremoni wobrwyo - Award ceremony
Llongyfarchiadau - Congratulations
Mae’n rhaid (i mi) cyfadde - I must admit
Llond y lle - Full up
Wedi cael eu henwebu - Had been nominated
Cefndryd - Male cousins
Esblygiad - Evolution
Yn y bôn - Basically
Cymunedau - Communities
Cyfranwyr - Contributors
Cyflawni - To achieve
This episode could use a review!
This episode could use a review! Have anything to say about it? Share your thoughts using the button below.
Submit Review