Pigion y Dysgwyr 9fed Gorffennaf 2020 - Publication Date |
- Jul 09, 2021
- Episode Duration |
- 00:13:55
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …”
SIOE FRECWAST
…Un o gyflwynwyr gorau Cymru, Heledd Cynwa,l oedd gwestai Cocadwdl Caryl Parry Jones a Geraint Hardy yr wythnos ‘ma a dyma hi’n ateb cwestiwn am wyliau tramor…
Cyflwynwyr - Presenters
Prydfertha - The most beautiful
Digon teg - Fair enough
Mwya trawiadol - Most striking
Tempro - To air
O’r cyfryw wely - From the said bed
Nefoedd - Heaven
Oglau’n neis - Smelling nice
DANIEL GLYN
Pawb yn y stiwdio yn fan’na yn hiraethu am wyliau tramor, ond tybed fyddwn ni’n defnyddio arian digidol i dalu am ein gwyliau yn y dyfodol? Dych chi’n deall yn iawn beth yw arian crypto? Na? Doedd Dan Glyn ddim yn gwbod rhyw lawer chwaith, ond yn ffodus roedd ei westai, Euros Evans, yn gwybod y cyfan
Dylsa fi - Dylwn i
Pres - Arian
Ffydd - Faith
Cynhyrchu - To produce
Arian parod - Cash
Cyfalafiaeth - Capitalism
Cyfnod go ddrwg - Quite a bad period
LISA GWILYM
Wel dyna ni felly, mater o ffydd ydy’r arain crypto, ond cofiwch bod gwerth yr arian yma’n medru mynd i fyny neu mynd i lawr. Mae sawl swydd ddiddorol wedi bod gan y gyflwynrwaig Amanda Prothero Thomas, fel clywodd Lisa Gwilym ar ei rhaglen fore Sul
Trwydded - Licence
Delfrydol - Ideal
Euraidd - Golden
Anhygoel - Incredible
SHAN COTHI
A dyna hanes swydd ddiddorol Amanda Prothero Thomas yn Ynysoedd Cayman yn y Caribî. Roedd Bob Marley – sy’n enwog am ei fiwsig reggae- yn dod o ynysoedd y Caribî ac mae Morgan Elwy yn ffan mawr o’i waith. Enillodd Morgan gystadleuaeth Can i Gymru eleni gyda’i gân reggae Bach o Hwne a soniodd Morgan wrth Shan Cothi am ddylanwad cerddoriaeth Bob Marley ac eraill ar ei fywyd ...
Dylanwad - Influence
Wastad - Always
Clod - Praise
Dau ddegawd - Two decades
Ysbrydoliaeth - Inspiration
O safon - Of quality
BETI GEORGE
Ac awn ni o ynysoedd y Caribî, cartref reggae, i Ynys Môn cartref Llinos Medi Huws . Hi yw Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn - un o arweinwyr cyngor ifancaf Prydain a hi oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Gofynnodd Beti iddi pam aeth hi i’r byd gwleidyddol yn y lle cynta ….
Y byd gwleidyddol - The political world
Dim bwriad o gwbl - No intention at all
Rhai unigolion - Some individuals
Aelod Cynulliad - Assembly Memeber
Trïo dwyn perswâd arna i - Trying to persuade me
Hybu - To encourage
Difaru - To regret
Cyngor - Advice
Pleidleisio - To vote
Es i o’i chwmpas hi - I went about it
DEI TOMOS
Llinos Medi Huws oedd honna, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn - Mam Cymru. Ac roedd Catrin o Ferain yn cael ei galw’n Fam Cymru yn ogystal achos bod ganddi deulu mor fawr. Mae llun enwog o Catrin yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, llun ohoni gyda’i llaw yn gorwedd ar benglog. Clywon ni ychydig o hanes y llun yma mewn sgwrs rhwng Dei Tomos a Helen Williams Ellis o Lasfryn ger Pwllheli. Dyma i chi flas ar y sgwrs...
Penglog - Skull
Wedi hudo - Had lured
Unswydd - Of one purpose
Datgelu - To reveal
Ym meddiant - In the possession of
Amgueddfa - Museum
Yn gyfarwydd â - Familiar with
Gwys - Summons