Pigion y Dysgwyr 6ed Awst 2021 - Publication Date |
- Aug 06, 2021
- Episode Duration |
- 00:14:23
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …
Gwneud Bywyd Yn Haws
Mae llawer ohonon ni wedi gorfod newid ein cynlluniau gwyliau dros cyfnod Covid, ond gwnaeth penderfyniad Carys Mai Hughes i ymestyn ei gwyliau cyn yr ail gyfnod clo newid ei bywyd hi am byth, fel clywon ni ar Gwneud Bywyd Yn Haws…
Ymestyn - To extend
Yr ail gyfnod clo - The second lockdown
Sa i’n mynd gartref - Dw i ddim yn mynd adre
Sa i’n beio ti - I don’t blame you
Swistir - Switzerland
Bore Cothi
Mae teithio o gwmpas Ewrop mewn campervan wedi gwneud bywyd yn dipyn haws i Carys on’d yw e? Shelley Rees oedd yn cyflwyno Bore Cothi ddiwedd wythnos diwetha a chafodd hi gwmni’r actores Rhian Cadwaladr. Actores ie, ond hefyd mae hi’n awdur, yn ffotograffydd ac fel cawn ni glywed yn y clip nesa, mae hi’n dipyn o gogyddes hefyd ac wedi ennill gwobr gan neb llai na Nigella Lawson…
Lawrlwytho - To download
Pobyddion - Bakers
Llachar - Bright
Cyfrif - Account
Gradd - Degree
Ieithoedd Canol Oesoedd - Middle Age Languages
Troi’r Tir
Wel, llongyfarchiadau mawr i Rhian ond hefyd i Nigella am ddefnyddio’r Gymraeg.
Mae merched o ardal Cynwyl Elfed yn Sir Gaerfyrddin wedi trefnu taith tractors i godi arian tuag at uned Cemotherapi Ysbyty Glangwili ger Caerfyrddin. Roedd dynion yn cael cymryd rhan hefyd ond ar un amod, fel cawn ni glywed! Dyma i chi rai o’r merched, a’r dynion, yn sôn am y daith…
Amod - Condition
Disgleirio - Shining
Yn flynyddol - Annually
Elusennau - Charities
Yn dost - Yn sâl
Cymuned - Community
Gwerthfawrogiad - Appreciation
Cydweithio - Cooperating
Mas - Allan
Silwair - Silage
Ifan Evans
Amy Evans, Mared Powell, Malcolm Evans a Michelle Evans oedd y rheina yn sôn am daith tractors Cynwyl Elfed. Tybed oedd Malcolm wedi gwisgo fel merch ar gyfer y daith? Roedd Mared yn y clip yna yn sôn ei bod yn dod o Lampumpsaint yn Sir Gaerfyrddin. Ac o Lanpumpsaint mae Alun Rees yn dod yn wreiddiol hefyd, ond erbyn hyn mae o’n byw yn Nashville, ac yn gweithio ar raglen deledu yno. Cafodd Ifan Evans sgwrs gydag Alun a dyma i chi flas ar y sgwrs…
Trydanwr - Electrician
Cyfryngau - Media
Crwt - Bachgen
Hyfforddi - To coach
Ar yr hewl (heol) - On the road
Offer - Equipment
Goleuni - Lights
Lleoliad - Location
Cofio
Hanes Alun Rees sy’n byw yn Nashville oedd hwnna ar raglen Ifan Evans. Cyd-ddigwyddiadau oedd thema Cofio’r wythnos diwetha a dyma
i chi glip o Aled Richard yn sôn wrth Shan Cothi am rywbeth rhyfedd iawn ddigwyddodd iddo fe …
Cyd-ddigwyddiadau - Coincidences
Arddegau - Teenage years
Hyd y gwyddwn i - As far as I knew
Dros Ginio
Wel ie, ‘sbŵci’ iawn on’d ife? Dw i’n siŵr bod llawer mwy ohonon ni wedi treulio gwyliau’r haf yma ar lan y môr yng Nghymru yn hytrach na mynd dramor oherwydd Covid. A does unman gwell, nac oes, ond i ni gael y tywydd! Ar Dros Ginio ddydd Mawrth diwetha cafodd Jennifer Jones gwmni’r syrffiwr, nofiwr gwyllt a’r amgylcheddwr Laura Truelove i sôn am pa mor arbennig ydy’r môr iddi hi’n bersonol…
Amgylcheddwr - Environmentalist
Arfordir - Coast
Yn rheolaidd - Regularly
Deniadol - Attractive
Atynfa - Attraction
Dianc - To escape
Cyngor - Advice
Iselder - Depression
Methu ymdopi - Unable to cope
Rhagnodi - To prescribe
Ïonau - Ions