Pigion y Dysgwyr 22ain Hydref 2021 - Publication Date |
- Oct 22, 2021
- Episode Duration |
- 00:14:30
CYMRY NEWYDD Y CYFNOD CLO - MOHINI GUPTA
Bardd o Delhi Newydd, Mohini Gupta, ddysgodd Cymraeg ar ôl iddi dreulio tri mis yn Aberystwyth yn 2017. Mae hi wedi cyfieithu cân boblogaidd yr Anhrefn a Candelas, Rhedeg i Baris, i Hindi ac mae’n gobeithio cryfhau’r cysylltiad rhwng y ddwy iaith yn y dyfodol. Dyma hi’n esbonio pam dechreuodd hi ddysgu Cymraeg
Bardd Poet
Cymrawd Fellow
Cwympo mewn cariad To fall in love
Mwyaf rhyfeddol Most amazing
Y gynghanedd Welsh metrical alliteration
Yn gysylltiedig â barddoriaeth Connected to poetry
Led-led y wlad Throughout the country
Gweithdy Workshop
Sylweddoli To realise
Cenhadon Missionaries
GWNEUD BYWYD YN HAWS – ROB LISLE A DAVID THOMAS
Mohini Gupta oedd honna’n sôn am y cysylltiad rhwng y Gymraeg a Hindi. Cafodd Hanna Hopwood gwmni rhai o gystadleuwyr 'Dysgwr y Flwyddyn 2021', i rannu cynghorion am sut i wneud bywyd yn haws wrth ddysgu Cymraeg. Mae Rob Lisle wedi bod yn helpu dysgwyr eraill i ddechrau sgwrsio yn Gymraeg mewn ffordd ymarferol a dyma e’n esbonio wrth Hanna sut mae e’n mynd o’i chwmpas hi...
Mynd o’i chwmpas hi To go about it
Dipyn o gamp Quite an achievment
Cymryd yn ganiataol To take for granted
Canolbwyntio Concentrating
Ystyried Considering
Gwybodaeth gyffredinol General information
Mo’yn Eisiau
BORE COTHI -MELANGELL DOLMA A RHIANNON OLIVER
Mae’n wych gweld rhai fel Rob, sydd wedi dysgu Cymraeg, yn rhoi help llaw i’r rhai sydd eisiau ei defnyddio. Un gafodd gyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yn fuan ar ôl ei dysgu ydy’r actores Rhiannon Oliver a lwyddodd i gael rhan yn ‘Enfys’ drama ddigidol Theatr Genendlaethol Cymru. Clywon ni’r hanes mewn sgwrs gafodd hi gyda Shan Cothi…
Dwys Intensive
Cyngor Celfyddydau Cymru Welsh Arts Council
Llawrydd Freelance
GERAINT LLOYD – JAMES HORNE
Wel dyna brofiad gwych i Rhiannon on’d ife? Roedd Geraint Lloyd yn holi ‘dysgwr y dydd’ ar ei raglen wythnos diwetha ar nos Fawrth. Myfyriwr sy’n astudio ym Mhrifysgol Bangor o’r enw James Horne oedd yn cadw cwmni iddo fe.
Cwrs TAR PGCE course
Parhau To continue
Hedfan Flying
Cwrs Calan New Year’s course
GERAINT LLOYD – ELISABETH HALIJAS
Ac arhoswn gyda Geraint Lloyd nawr i glywed rhan o sgwrs gaeth e gydag Elisabeth Halijas dietegydd sydd yn byw a gweithio yng Nghaerdydd, ond sy’n dod o Estonia yn wreiddiol. Fel James Horne, mae hi wedi dysgu Cymraeg yn gyflym iawn – dim ond tair blynedd mae hi wedi bod wrthi. Gofynnodd Geraint iddi hi a oedd y Gymraeg yn help iddi yn y gwaith.
Defnyddiol Useful
Ymgynghoriad Consultation
Gwirfoddoli To volunteer
BETI GEORGE – GRANT PEISLEY
Wel dyna fywyd prysur sy gyda Elisabeth on’d ife? Ac mae’n wych ei bod hi, sy’n dod o Estonia yn medru cynnig gwasanaeth Gymraeg i’w chleientau. Grant Peisley oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Mae Grant yn dod o Picnic Point ger Sydney Awstralia yn wreiddiol ac roedd e’n hapus iawn pan ofynnodd Beti iddo fe am ei deulu….
Hynafiaid Ancestors
Ymhlith y carcharorion Amongst the prisoners
Go iawn Really
Cyswllt Connection
Ieuengaf Fenga/ifanca
Cyfnitherod Female Cousins
Wel dyna ni, mae wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg ar Radio Cymru wedi mynd â ni i India, Lloegr, Estonia ac Awstralia. Ond ble bynnag dych chi’n byw, o ble bynnag dych chi’n dod, dyn ni yn Radio Cymru a, dw i’n siŵr, pobl Cymru gyfan yn falch iawn ohonoch chi, ac yn falch o’ch cyfraniad at y bywyd Cymraeg. Daliwch ati!