Pigion y Dysgwyr 15fed Hydref 2021 - Publication Date |
- Oct 15, 2021
- Episode Duration |
- 00:14:06
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …”
SIWRNA SIONED
Siwrna Sioned, sef rhaglen arbennig am ferch arbennig o Lanrug ger Caernarfon. Cafodd Sioned Roberts ddiagnosis o’r clefyd Motor Neurone yn 2006. Mae hi am ddefnyddio pob cyfle i rannu ei phrofiadau er mwyn helpu rhai eraill sydd â’r un clefyd. Dyma hi’n sgwrsio gydag Aled Hughes…
Clefyd Disease
Ymlaen llaw Before hand
Iesgob! Goodness!
Sylweddoli To realise
Cryfder Strength
Magwraeth Upbringing
Ymchwil Research
Triniaeth iachâd A cure
Ymwybyddiaeth Awareness
Cyfryngau cymdeithasol Social media
SIOE SADWRN SHELLEY A RHYDIAN
Ie, fel d’wedodd Aled, roedd Sioned yn gryf, yn ddewr ac yn onest yn fan’na wrth drafod ei phrofiadau hi o’r clefyd Motor Neurone. Rhodri Owen oedd gwestai Shelley a Rhydian ar y Sioe Sadwrn a buodd e’n sôn am yr adeg pan aeth i gyfweld Matthew Rhys am y ffilm A Beautiful Day in the Neighbourhood. Ond doedd cael cyfweld Mattthew ddim yn ddigon i Rhodri, roedd e am gael gair gyda seren arall y ffilm, sef yr actor enwog Tom Hanks. Lwyddodd e i wneud hynny tybed? Dyma fe’n dweud yr hanes…
Dewr Brave
Cyfweld To interview
Rhes A row
Anhygoel Incredible
Yn llythrennol Literally
Tueddiad ofnadwy An awful terndency
GERAINT LLOYD
Stori anhygoel gan Rhodri Owen am sut lwyddodd e i gael cyfweliad gyda Tom Hanks.
Cafodd Geraint Lloyd sgwrs gyda’r gyrrwr ralio Elfyn Evans ar ôl iddo fe ennill Rali'r Ffindir - y Cymro cyntaf i wneud hynny. Enillodd y gyrrwr o Ddinas Mawddwy, ger Dolgellau naw o 19 cymal y rali heriol yma, ac ennill pum pwynt bonws drwy ennill y cymal olaf.
Ffindir Finland
Cymal Stage (of race)
Heriol Challenging
Yn fwy diweddar More recently
O’r cychwyn cynta From the very start
Ychydig o fantais A slight advantage
Yn dywyllach darker
Gwastad Level
Tymheredd Temperature
Cyn ised â As low as
BETI A’I PHOBL
Ac mae hi’n dal yn bosib i Elfyn ennill Pencampwriaeth Rali'r Byd, felly pob lwc iddo fe.
Buodd Beti George yn sgwrsio gyda'r fenyw fusnes Sioned Llywelyn Williams, ac yn y clip nesa mae Sioned yn sôn am ei chyfnod yn byw yng Nghaerdydd pan oedd hi’n ifancach, ac yn esbonio pam ei bod wedi dod yn ôl i fyw i Lanuwchlyn yn Ngwynedd, sef yr ardal ble cafodd hi ei magu…
Pencampwriaeth Championship
Ifancach Fengach
Wastad Always
Bwrlwm Buzz
Am gyfnod For a period
Cydnabyddiaeth Acknowledgment
Eithriadau Exceptions
Broydd Region
Yn fwy cyffredin More prevalent
Faswn i’n tybio I’d imagine
DEWI LLWYD
Sioned Llywelyn Williams oedd honna’n falch iawn o fod yn ôl yn Llanuwchllyn.
Roedd stori dda gan westai pen-blwydd Dewi Llwyd sef Nia Roberts.
Stori oedd hon am yr adeg Nia wedi mynd am glyweliad i chwarae rhan merch Owain Glyndŵr mewn ffilm ar gyfer S4C. Y cyfarwyddwr James Hill oedd yn gwneud y penderfyniad ac roedd Nia yn reit hyderus gan mai ei thad hi, J O Roberts, oedd wedi cael ei ddewis i chwarae rhan Owain. Pwy well felly na Nia i chwarae rhan ei ferch? Ond nid felly aeth hi, fel cawn ni glywed yn y clip yma…
Clyweliad Audition
Cyfarwyddwr Director
Hogiau Bechgyn
Diarth (dieithr) Strange
Cynhyrchu To produce
Trafodaeth A discussion