- Publication Date |
- May 25, 2018
- Episode Duration |
- 00:26:57
Saith deg mlynedd ers ei sefydlu, faint o chwistrelliad ariannol y dylai'r Gwasanaeth Iechyd ei gael? Mae Llywodraeth Cymru'n gwario bron i hanner eu cyllid ar yr NHS, ond ai cynyddu gwariant yw'r ateb i bopeth?
Byddai busnesau'n wynebu cost o hyd at ugain biliwn o bunnau'r flwyddyn wrth gydymffurfio â'r trefniant tollau sy'n cael ei ffafrio gan gefnogwyr mwyaf brwd Brexit o fewn Cabinet Theresa May, yn ôl Ysgrifennydd Parhaol Cyllid a Thollau EM. Amangyfrif yn unig yw'r ffigwr gan Jon Thompson, ond mae'n ymddangos mai dyma'r amcangyfrif swyddogol cyntaf. Beth nesaf?
Harri Lloyd Davies, Iestyn Wyn a Catrin Elis Williams sy'n ymuno â Vaughan Roderick.