Please login or sign up to post and edit reviews.
Cyllid Awdurdodau Lleol ac Iechyd Meddwl - Publication Date |
- Oct 12, 2018
- Episode Duration |
- 00:26:58
Ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi faint o gyllid y bydd pob awdurdod lleol yn ei dderbyn y flwyddyn nesaf, sy'n cyfateb i lai o arian ac ystyried chwyddiant, dyma bwyso a mesur y goblygiadau i'r cynghorau a'u gwasanaethau. Mae Alun Davies o'r Llywodraeth yn dadlau mai dyma'r setliad gorau posib o dan yr amgylchiadau ariannol presennol, ond nid yn annisgwyl mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru'n eithriadol o siomedig.
Mae Vaughan Roderick a'i westeion hefyd yn trafod iechyd meddwl, wedi i Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd arwain at gwestiynau pellach am y gwasanaethau sy'n cael eu cynnig i helpu pobl yng Nghymru.
Dr. Elin Jones, y Cynghorydd Gareth Jones a Dr. Felix Aubel sy'n ymuno â Vaughan.
This episode could use a review!
This episode could use a review! Have anything to say about it? Share your thoughts using the button below.
Submit Review