- Publication Date |
- Nov 23, 2018
- Episode Duration |
- 00:26:58
Ddeuddydd cyn i arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd gwrdd ym Mrwswl, gyda'r nod o roi sêl bendith ar y cytundeb drafft diweddar, mae Arwyn Jones a'i westeion yn trafod y diweddaraf ynglŷn â Brexit.
Trafodaeth hefyd ar dlodi, gyda rhybudd y gallai nifer y bobl sy'n mewn tlodi yng Nghymru gynyddu dros y blynyddoedd nesaf. Er bod diffyg gwaith yn llai o broblem yng Nghymru erbyn hyn, o gymharu â'r blynyddoedd diwethaf, dyw swyddi ddim bob amser yn talu'n dda, ac mae'r cysylltiad rhwng tlodi a phroblemau iechyd plant yn gwbl amlwg.
Sian Powell, Sion Llewelyn ac Ian Gill sy'n ymuno ag Arwyn.