Brexit a Refferendwm Datganoli 1979 - Publication Date |
- Mar 01, 2019
- Episode Duration |
- 00:27:02
Ar ôl addo pleidlais i Aelodau Seneddol ar ohirio Brexit, os yw ei chytundeb hi'n cael ei wrthod, mae Theresa May yn parhau i ganolbwyntio ar adael yr Undeb Ewropeaidd gyda chytundeb ar y nawfed ar hugain o Fawrth; ond mae'r addewid honno wedi arwain at ymddiswyddiad George Eustice fel gweinidog amgylchedd, gyda rhybudd ganddo y byddai gohirio ar yr unfed awr ar ddeg yn beryglus.
Mae Vaughan Roderick a'i westeion hefyd yn trafod refferendwm y cyntaf o Fawrth 1979, a phedwar o bob pump o'r pleidleiswyr yng Nghymru bryd hynny'n gwrthwynebu datganoli. Ddeunaw mlynedd yn ddiweddarach, cafodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru sêl bendith.
Hedydd Phylip, Syr Deian Hopkin a Guto Bebb sy'n ymuno â Vaughan.