- Publication Date |
- Jan 18, 2019
- Episode Duration |
- 00:26:59
Mae'r bleidlais wedi bod, a'r Prif Weinidog Theresa May wedi cael crasfa go iawn, cyn i fwyafrif aelodau Tŷ'r Cyffredin ddatgan bod ganddyn nhw ffydd yn y Llywodraeth. Mae gan Mrs. May, felly, ychydig ddyddiau i ailfeddwl a chyflwyno cynllun a allai gael sêl bendith, ond mae'n parhau i fynnu y dylai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb unrhyw gytundeb o gwbl fod yn opsiwn o hyd.
Yn ogystal â thrafod Brexit, mae Vaughan Roderick a'i westeion hefyd yn pwyso a mesur galwad gwyddonwyr am i ni newid ein harferion bwyta, a hynny i achub y blaned. Does dim sôn am waharddiad llwyr ar gic coch a chynnyrch llaeth, ond mae 'na sôn am bethau fel un byrgyr yr wythnos ac un stecen y mis.
Ann Beynon, Elin Llŷr ac Alun Hughes sy'n gwmni i Vaughan.