- Publication Date |
- Oct 19, 2018
- Episode Duration |
- 00:26:58
Ar ôl i Alun Davies, yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, wneud datganiad am Barc Rhanbarthol y Cymoedd, mae Vaughan Roderick a'i westeion yn trafod y rhan hon o Gymru. Roedd 'na sylwadau emosiynol ar lawr y Cynulliad, am harddwch a phwysigrwydd hanesyddol a diwylliannol yr ardal, ynghyd ag ofnau am y cyfan yn cael ei anwybyddu. Beth yw barn y panelwyr?
Hefyd, y diweddaraf ynglŷn â Brexit. Oedd, roedd hon i fod yn wythnos dyngedfennol arall yn hanes y paratoadau ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond a oes unrhyw beth wedi newid?
Cadan ap Tomos, Luned Whelan a Carol Bell sy'n ymuno â Vaughan.